Gwasanaethau Gwybodeg GIG Cymru

Gwasanaethau Gwybodeg GIG Cymru

Inquiry5

Cyhoeddodd Archwilydd Cyffredinol Cymru adroddiad ar Wasanaethau Gwybodeg GIG Cymru ym mis Ionawr 2018.

Mae’r adroddiad yn ystyried y trefniadau ar gyfer darparu gwasanaethau gwybodeg cenedlaethol ac yn ystyried a yw GIG Cymru mewn sefyllfa dda i sicrhau’r budd a fwriadwyd o fuddsoddi mewn systemau gwybodeg clinigol wedi’u diweddaru. At ddibenion yr astudiaeth hon, mae’r adroddiad yn cynnwys Adran Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol Llywodraeth Cymru fel rhan o GIG Cymru. Mae’r adroddiad yn canolbwyntio’n bennaf ar y trefniadau o fewn Gwasanaethau Gwybodeg GIG Cymru i ddarparu systemau cenedlaethol. Cafodd chwech o systemau penodol eu hystyried yn fanylach fel dangosyddion y dull ehangach tuag at wybodeg. Roedd y gwaith hwn hefyd yn cynnwys edrych ar ymgysylltiad byrddau iechyd â darparu’r systemau cenedlaethol.

Cynhaliodd y Pwyllgor Cyfrifon Cyhoeddus ymchwiliad yn ystod tymor yr haf 2018 a chyhoeddodd adroddiad ym mis Tachwedd 2018. Ystyriodd y Pwyllgor ymateb Llywodraeth Cymru i’r adroddiad ym mis Ionawr 2019. Cynhaliwyd dadl yn y cyfarfod llawn ar 30 Ionawr 2019.

Bu’r Pwyllgor yn parhau i fonitro cynnydd yn erbyn yr argymhellion a chynhaliwyd sesiwn dystiolaeth bellach gyda Llywodraeth Cymru yn ystod tymor yr hydref 2019. Bwriadwyd i’r Pwyllgor ddychwelyd at y pwnc hwn gyda Llywodraeth Cymru yn ystod tymor yr hydref 2020, ond yn sgil y pandemig Covid-19, cytunodd i gael y wybodaeth ddiweddaraf drwy ohebiaeth ysgrifenedig.

Cyhoeddodd yr Archwilydd Cyffredinol adroddiad, sef System Gwybodaeth Gofal Cymunedol Cymru (WCCIS) ym mis Hydref 2020. Fwy na phum mlynedd ers dechrau cyfnod y contract, roedd yr adroddiad yn nodi darlun pryderus o gynnydd o ran cyflwyno a gweithredu’r System Gwybodaeth Gofal Cymunedol, a oedd wedi’i hyrwyddo fel elfen ddigidol allweddol o gynlluniau Llywodraeth Cymru ar gyfer gwasanaethau iechyd a gofal cymdeithasol integredig.

Trefnwyd i’r Pwyllgor drafod yr Adroddiad ar System Gwybodaeth Gofal Cymunedol Cymru gyda Llywodraeth Cymru ynghyd â maes ehangach gwybodeg y GIG, ym mis Tachwedd 2020. Oherwydd y pandemig COVID-19, derbyniwyd sylwadau drwy ohebiaeth ysgrifenedig.

Sesiwn Dystiolaeth

Dyddiad, Agenda a Cofnodion

Trawsgrifiad

Fideo

1.
Gwasanaeth Gwybodeg GIG Cymru
Andrew Griffiths
Steve Ham
 

Dydd Llun 16 Ebrill 2018

Darllen trawsgrifiad o Sesiwn Dystiolaeth 1

Gwylio Sesiwn Dystiolaeth 1 ar Senedd TV

2.
Byrddau Iechyd
Bwrdd Iechyd Prifysgol Aneurin Bevan

Bwrdd Iechyd Prifysgol Hywel Dda

Dydd Llun 23 Ebrill 2018

Darllen trawsgrifiad o Sesiwn Dystiolaeth 2

Gwylio Sesiwn Dystiolaeth 2 ar Senedd TV

3.
Llywodraeth Cymru
Dr Andrew Goodall

Dydd Llun 14 Mai 2018

Darllen trawsgrifiad o Sesiwn Dystiolaeth 3

Gwylio Sesiwn Dystiolaeth 3 ar Senedd TV

4.
Ymddiriedolaeth GIG Felindre
Dr Jacinta Abraham
Mark Osland
Stuart Morris

Dydd Llun 2 Gorffennaf 2018

Darllen trawsgrifiad o Sesiwn Dystiolaeth 4

Gwylio Sesiwn Dystiolaeth 4 ar Senedd TV

5.
Llywodraeth Cymru/Gwasanaeth Gwybodeg GIG Cymru
Dr Andrew Goodall
Andrew Griffiths

Dydd Llun 16 Gorffennaf 2018

Darllen trawsgrifiad o Sesiwn Dystiolaeth 5

Gwylio Sesiwn Dystiolaeth 5 ar Senedd TV

6. Llywodraeth Cymru

 

Dr Andrew Goodall

Andrew Griffiths

Ifan Evans

Dydd Llun 4 Tachwedd 2019

Darllen trawsgrifiad o Sesiwn Dystiolaeth 6

Gwylio Sesiwn Dystiolaeth 6 ar Senedd TV

 

Math o fusnes: Ymchwiliad Pwyllgor

Rheswm dros ei ystyried: Busnes y Senedd;

Statws: Wedi’i gwblhau

Cyhoeddwyd gyntaf: 11/01/2018

Dogfennau