NDM6616 Dadl: Cynllun Morol Cenedlaethol Cymru - Drafft

NDM6616 Dadl: Cynllun Morol Cenedlaethol Cymru - Drafft

NDM6616 Julie James (Gorllewin Abertawe)

 

Cynnig bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru:

 

1. Yn croesawu’r ymgynghoriad ar fersiwn ddrafft Cynllun Morol Cenedlaethol Cymru (WNMP).

 

2. Yn cydnabod ac yn cefnogi posibilrwydd ‘Twf Glas’ cynaliadwy mewn sectorau morol fel y nodir yn y cynllun drafft.

 

3. Yn cydnabod, fel y nodir yn y cynllun drafft, bwysigrwydd ecosystemau morol Cymru a phwysigrwydd rheoli ein hadnoddau naturiol morol yn gynaliadwy o safbwynt llesiant cenedlaethol.

 

4. Yn croesawu ymrwymiad parhaus Llywodraeth Cymru i ymgysylltu a chydweithio wrth ddatblygu a gweithredu cynllunio morol i Gymru.

 

Ddrafft Cynllun Morol Cenedlaethol Cymru

Math o fusnes: Dadl

Rheswm dros ei ystyried: Busnes y Llywodraeth;

Statws: Wedi’i gwblhau

Cyhoeddwyd gyntaf: 04/01/2018

Angen Penderfyniad: 9 Ion 2018 Yn ôl Y Cyfarfod Llawn - Y Bumed Senedd

Prif Aelod: Julie James AS