NDM6619 - Dadl y Ceidwadwyr Cymreig
NDM6619 - Dadl y Ceidwadwyr Cymreig
NDM6619
Paul
Davies (Preseli Sir Benfro)
Cynnig bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru:
1. Yn nodi anallu y rhwydwaith ffyrdd yng Nghymru i ymdopi
â'r lefel bresennol o alw gan fodurwyr.
2. Yn gresynu bod seilwaith ffyrdd is-safonol Cymru yn
costio cannoedd o filiynau o bunnoedd y flwyddyn i economi Cymru.
3. Yn cydnabod pwysigrwydd hanfodol rwydwaith ffyrdd
addas at y diben ac sy'n gweithredu'n briodol ar gyfer datblygiad tymor hir
economi Cymru.
4. Yn galw ar Lywodraeth Cymru i weithio gyda Llywodraeth
y DU i edrych ar ffyrdd arloesol o gyllido prosiectau ffyrdd yn y dyfodol.
Math o fusnes: Dadl
Rheswm dros ei ystyried: Busnes y Senedd;
Statws: Wedi’i gwblhau
Cyhoeddwyd gyntaf: 04/01/2018
Angen Penderfyniad: 10 Ion 2018 Yn ôl Y Cyfarfod Llawn - Y Bumed Senedd