Ymchwiliad i gysgu ar y stryd yng Nghymru

Ymchwiliad i gysgu ar y stryd yng Nghymru

 

Inquiry5

 

Ym mis Rhagfyr 2017, cytunodd y Pwyllgor Cymunedau, Cydraddoldeb a Llywodraeth Leol i gynnal ymchwiliad byr i gysgu ar y stryd yng Nghymru.

 

Cylch gorchwyl:

Roedd y cylch gorchwyl yn cynnwys ystyried y canlynol:

  • effeithiolrwydd Rhan 2 o Ddeddf Tai (Cymru) o ran atal cysgu ar y stryd;
  • graddfa cysgu ar y stryd yng Nghymru a digonolrwydd y data;
  • achosion cysgu ar y stryd a’r cynnydd ymddangosol diweddar yn nifer y bobl sy’n cysgu ar y stryd;
  • effeithiolrwydd ac argaeledd gwasanaethau, gan gynnwys llety brys; a’r
  • camau i atal ac ymdrin â chysgu ar y stryd yng Nghymru.

 

 

Casglu tystiolaeth

 

Daeth 22 o gyflwyniadau ysgrifenedig i law’r Pwyllgor a chynhaliodd chwe sesiwn tystiolaeth lafar gyda rhanddeiliaid a'r Gweinidog Tai ac Adfywio. Gellir gweld yr ymatebion ysgrifenedig a rhestr o'r dystiolaeth lafar a glywyd isod.

 

Adroddiad

 

Cyhoeddodd y Pwyllgor ei adroddiad: Bywyd ar y strydoedd: atal a mynd i’r afael â chysgu ar y stryd yng Nghymru yn Ebrill 2018.

 

Wrth gyhoeddi'r adroddiad, dywedodd John Griffiths AS, Cadeirydd y Pwyllgor:

 

“Clywsom gan amrywiaeth o sefydliadau sy’n cefnogi pobl sy’n cysgu ar y stryd a chan arbenigwyr sydd wedi cwblhau gwaith ymchwil helaeth yn y maes pwnc hwn. Efallai yn bwysicach fyth, clywsom gan bobl sydd â phrofiad uniongyrchol o fyw ar y stryd ond sydd wedi cael cefnogaeth i lety ers hynny. Clywsom hanesion. Clywsom hanesion cynhyrfus o beth arweiniodd iddynt gysgu ar y stryd.”

 

Gosododd Llywodraeth Cymru ei hymateb i’r adroddiad yn Mehefin 2018. Cafwyd dadl ar yr adroddiad ac ymateb y Llywodraeth yn y Cyfarfod Llawn ar 13 Mehefin 2018.

 

Gwaith dilynol

 

Ar ôl cyhoeddi Cynllun Gweithredu Cysgu Allan Llywodraeth Cymru ym mis Chwefror 2018, cynhaliodd y Pwyllgor sesiwn graffu ddilynol gyda’r Gweinidog Tai a Llywodraeth Leol.

 

Yn ei gyfarfod ar 5 Mehefin 2019, cytunodd y Pwyllgor i gynnal gwaith dilynol ychwanegol ar ei ymchwiliad i gysgu ar y stryd yng Nghymru. O ganlyniad i hynny, cynhaliodd y Pwyllgor ddigwyddiad rhanddeiliaid yn dilyn sesiwn graffu gyda’r Gweinidog Tai a Llywodraeth Leol.

 

Ddydd Mercher 13 Tachwedd, yn dilyn y materion a godwyd mewn cyfarfodydd blaenorol, cynhaliodd y Pwyllgor sesiwn dystiolaeth i drafod y gwasanaethau a’r cymorth sydd ar gael i’r rhai sy’n cysgu ar y stryd sydd ag anhwylderau sy’n cyd-ddigwydd.

 

Yn dilyn y gwaith hwn, cyhoeddodd y Pwyllgor adroddiad byr ar iechyd meddwl a chamddefnyddio sylweddau ymysg pobl sy’n cysgu ar y stryd (PDF, 203KB) ddydd Iau 19 Rhagfyr.

 

Wrth gyhoeddi'r adroddiad, dywedodd John Griffiths AS, Cadeirydd y Pwyllgor:

 

“Nid oes unrhyw gwestiwn ein bod yn wynebu argyfwng o ran cysgu ar y stryd ac ar hyn o bryd nid oes digon o arian yn y system i sicrhau'r newid sylweddol sydd ei angen i fynd i'r afael â'r broblem. Fodd bynnag, mae'n amlwg hefyd bod llawer o broblemau strwythurol ledled Cymru sy'n ein rhwystro rhag dileu cysgu ar y stryd. Ni ellir atal digartrefedd drwy dai yn unig, mae rôl i'r holl wasanaethau cyhoeddus o ran mynd i'r afael â'r broblem.”

 

Gosododd Llywodraeth Cymru ei hymateb (PDF, 255KB) i adroddiad y Pwyllgor “Gwaith dilynol ar gysgu ar y stryd: Gwasanaethau iechyd meddwl a gwasanaethau camddefnyddio sylweddau” ar 5 Chwefror 2020.

 

Cynhaliwyd dadl ar yr adroddiad a’r ymateb iddo yn y Cyfarfod Llawn ar 12 Chwefror 2020.

 

Yn ystod pandemig y coronafeirws, cynhaliodd y Pwyllgor sesiwn dystiolaeth ar ddydd Mawrth 14 Gorffennaf 2020 i drafod effaith y feirws ar ddigartrefedd a chysgu ar y stryd.

 

Cadw mewn cysylltiad

 

Os hoffech wybod rhagor am waith y Pwyllgor Cydraddoldeb, Llywodraeth Leol a Chymunedau, ewch i’w dudalen hafan, dilynwch ei gyfrif Twitter neu cysylltwch â'r tîm sy'n cynorthwyo'r Pwyllgor yn SeneddCymunedau@senedd.cymru

Math o fusnes: Ymchwiliad Pwyllgor

Rheswm dros ei ystyried: Busnes y Senedd;

Statws: Wedi’i gwblhau

Cyhoeddwyd gyntaf: 05/01/2018

Dogfennau