NDM6626 - Dadl Aelodau o dan Reol Sefydlog 11.21(iv)

NDM6626 - Dadl Aelodau o dan Reol Sefydlog 11.21(iv)

NDM6626

Mick Antoniw (Pontypridd)
David Melding (Canol De Cymru)
David Rees (Aberafan)
Sian Gwenllian (Arfon)

Cynnig bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru:

1. Yn cydnabod bod contractau preswyl lesddaliad yn parhau i gynrychioli cyfran sylweddol o eiddo a adeiladir o'r newydd yng Nghymru; a

a) bod contractau preswyl lesddaliad yn aml yn cael eu cynnig ar delerau anfanteisiol, gan arwain at niwed i berchennog y cartref; a

b) mai ychydig o amddiffyniad sydd gan berchnogion cartrefi lesddaliad rhag ffioedd afresymol ac oedi afresymol wrth brynu, gwerthu neu wella eu heiddo.

2. Yn nodi gwaharddiad arfaethedig Llywodraeth y DU ar werthu eiddo lesddaliad a adeiladir o'r newydd yn Lloegr.

3. Yn credu y dylai Llywodraeth Cymru gymryd camau i ddiogelu perchnogion cartrefi yn y dyfodol drwy ddiddymu contractau preswyl lesddaliad yng Nghymru.

Cefnogwyr:

Mike Hedges (Dwyrain Abertawe)
Julie Morgan (Gogledd Caerdydd)
Jenny Rathbone (Canol Caerdydd)
Russell George (Sir Drefaldwyn)
Jane Hutt (Bro Morgannwg)
Darren Millar (Gorllewin Clwyd)
Simon Thomas (Canolbarth a Gorllewin Cymru)
Jayne Bryant (Gorllewin Casnewydd)
Janet Finch-Saunders (Aberconwy)
Lynne Neagle (Torfaen)
Joyce Watson (Canolbarth a Gorllewin Cymru)

Math o fusnes: Dadl

Rheswm dros ei ystyried: Busnes y Senedd;

Statws: Wedi’i gwblhau

Cyhoeddwyd gyntaf: 23/01/2018

Angen Penderfyniad: 31 Ion 2018 Yn ôl Y Cyfarfod Llawn - Y Bumed Senedd