Darlun o Wasanaethau Cyhoeddus 2011

Darlun o Wasanaethau Cyhoeddus 2011

Cyhoeddodd Archwilydd Cyffredinol Cymru ei adroddiad cyntaf, sef Y Darlun o Wasanaethau Cyhoeddus ym mis Mawrth 2010, a amcangyfrifodd yr heriau ariannol sy'n wynebu gwasanaethau cyhoeddus yng Nghymru.

Cyhoeddodd Archwilydd Cyffredinol Cymru adroddiad arall Darlun o Wasanaethau Cyhoeddus 2011 ym mis Hydref 2011, a oedd yn rhoi mwy o eglurhad o'r heriau sy'n wynebu gwasanaethau cyhoeddus yng Nghymru yn ystod cyfnod o lefelau digynsail o bwysau ariannol. Canfu'r Archwilydd Cyffredinol fod nifer o gamau cadarnhaol wedi'u cymryd ers cyhoeddi'r adroddiad cyntaf, ond bod cwmpas o hyd i wneud mwy i sicrhau arbedion effeithlonrwydd yn y gwasanaethau cyhoeddus yng Nghymru.

Cynhaliodd y Pwyllgor Cyfrifon Cyhoeddus ymchwiliad i'r heriau sy'n wynebu llywodraeth leol.  Wrth ystyried yr heriau ariannol sy'n wynebu'r GIG yng Nghymru, roedd y Pwyllgor yn ymwybodol y bydd yr Archwilydd Cyffredinol yn cyhoeddi adroddiad arall ar Gyllid y GIG.

 

Math o fusnes: Ymchwiliad Pwyllgor

Statws: Wedi’i gwblhau

Cyhoeddwyd gyntaf: 26/06/2013

Dogfennau