Y Diwydiant Bwyd a Diod yng Nghymru

Y Diwydiant Bwyd a Diod yng Nghymru

Ym mis Chwefror 2018, craffodd y Pwyllgor Craffu ar Waith y Prif Weinidog ar waith y Prif Weinidog yn ymwneud â materion sy’n effeithio ar y diwydiant bwyd a diod yng Nghymru. Yn benodol, trefniadau masnach ryngwladol posibl ar ôl gadael yr Undeb Ewropeaidd a'r goblygiadau i'r diwydiant, er enghraifft:

>>>> 

>>> cyfleoedd a risgiau o ran safonau bwyd;

>>> hyrwyddo cynnyrch bwyd o Gymru a 'brand Cymru'; a'r

>>> goblygiadau ar gyfer twristiaeth a'r diwydiant lletygarwch.

<<< 

Math o fusnes: Ymchwiliad Pwyllgor

Rheswm dros ei ystyried: Busnes y Senedd;

Statws: Wedi’i gwblhau

Cyhoeddwyd gyntaf: 23/02/2018

Dogfennau