NDM6645 - Dadl Plaid Annibyniaeth y Deyrnas Unedig

NDM6645 - Dadl Plaid Annibyniaeth y Deyrnas Unedig

NDM6645 Neil Hamilton (Canolbarth a Gorllewin Cymru)

Cynnig bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru:

1. Yn nodi Adroddiad y Panel Arbenigol ar Ddiwygio Etholiadol y Cynulliad, 'Senedd sy'n gweithio i Gymru'.

2. Yn credu:

a) ar hyn o bryd, na ddylai fod unrhyw gynnydd yn nifer aelodau etholedig y Cynulliad; a

b) bod yn rhaid i etholwyr nodi eu caniatâd ar gyfer unrhyw gynnydd yn nifer yr aelodau etholedig yn y dyfodol drwy refferendwm.

Panel Arbenigol ar Ddiwygio Etholiadol y Cynulliad - Senedd sy'n Gweithio i Gymru

Math o fusnes: Dadl

Rheswm dros ei ystyried: Busnes y Senedd;

Statws: Wedi’i gwblhau

Cyhoeddwyd gyntaf: 31/01/2018

Angen Penderfyniad: 7 Chwe 2018 Yn ôl Y Cyfarfod Llawn - Y Bumed Senedd