NDM6669 - Dadl Plaid Cymru
NDM6669 - Dadl Plaid Cymru
NDM6669 Rhun ap Iorwerth
(Ynys Môn)
Cynnig bod
Cynulliad Cenedlaethol Cymru:
1. Yn
cydnabod pwysigrwydd darlledu i gynaliadwyedd democratiaeth hyfyw yng Nghymru.
2. Yn
pryderu am y cwymp sylweddol yn nifer oriau darlledu ITV Cymru a'r toriadau
sylweddol i S4C a'i sefyllfa ariannol ansicr bresennol.
3. Yn
pryderu ymhellach am sefyllfa darlledu Cymraeg a Chymreig ar radio masnachol a
theledu lleol ynghyd ag effaith cynigion Llywodraeth y DU i ddad-reoleiddio'r
farchnad radio ymhellach.
4. Yn nodi
bod angen i Gymru fod ar flaen y gad yn natblygiadau technolegau cyfryngol ac i
ddarlledu Cymraeg a Chymreig fod ar nifer helaethach o blatfformau a dulliau o
gynhyrchu, cyhoeddi a dosbarthu cynnwys.
5. Yn cytuno
y dylai fod ystyriaeth lawn o ddatganoli cyfrifoldebau dros ddarlledu i Gymru.
6. Yn galw
ar Lywodraeth Cymru i ymchwilio ymarferoldeb datganoli pwerau dros ddarlledu i
Gymru ac adrodd yn ôl i’r Cynulliad o fewn blwyddyn.
Math o fusnes: Dadl
Rheswm dros ei ystyried: Busnes y Senedd;
Statws: Wedi’i gwblhau
Cyhoeddwyd gyntaf: 26/02/2018
Angen Penderfyniad: 28 Chwe 2018 Yn ôl Y Cyfarfod Llawn - Y Bumed Senedd
Prif Aelod: Rhun ap Iorwerth AS