Cydraddoldeb a Gadael yr Undeb Ewropeaidd: Sesiwn pwyllgor i nodi’r themâu allweddol

Cydraddoldeb a Gadael yr Undeb Ewropeaidd: Sesiwn pwyllgor i nodi’r themâu allweddol

Y cefndir

Trefnodd y Pwyllgor Materion Allanol a Deddfwriaeth Ychwanegol gyfarfod gyda thystion arbenigol i glywed am y prif faterion ar gyfer cydraddoldeb yng Nghymru yng nghyd-destun gadael yr Undeb Ewropeaidd. Helpodd y cyfarfod y Pwyllgor i ddeall rhai o’r materion cydraddoldeb allweddol yn sgil gadael yr Undeb Ewropeaidd gyda’r bwriad o brif ffrydio’r ystyriaethau hyn yn ei waith yn y dyfodol.

 

Casglu tystiolaeth

Mae’r Pwyllgor wedi trafod rhai o’r materion hyn o’r blaen yn ei adroddiad Y Goblygiadau i Gymru yn Sgil Gadael yr Undeb Ewropeaidd.

 

Mae Pwyllgor Cydraddoldeb, Llywodraeth Leol a Chymunedau y Cynulliad wedi cynnal ymchwiliad i Hawliau Dynol yng Nghymru a oedd yn cynnwys ystyried effaith y DU yn gadael yr Undeb Ewropeaidd ar ddiogelu hawliau dynol yng Nghymru.

 

Ar 26 Chwefror 2018, cynhaliodd y Pwyllgor Materion Allanol a Deddfwriaeth Ychwanegol gyfres o sesiynau yn trafod effaith Brexit ar gydraddoldeb.

 

Mewn ymateb i'r sesiwn ar themâu allweddol, cytunodd y Pwyllgor i ysgrifennu llythyr (PDF, 386KB) at y Prif Weinidog, ar y cyd â’r Pwyllgor Cydraddoldeb, Llywodraeth Leol a Chymunedau, yn tynnu sylw at y materion allweddol a godwyd yn y ddau bwyllgor mewn perthynas â Brexit. Ymatebodd (PDF,305KB) y Prif Weinidog i'r llythyr ar y cyd ar 16 Mai 2018.

 

Ar 28 Mehefin 2018, ysgrifennodd Cadeirydd y Pwyllgor Materion Allanol a Deddfwriaeth Ychwanegol at y Prif Weinidog i ofyn am eglurhad pellach am oblygiadau Deddf yr Undeb Ewropeaidd (Ymadael) 2018 o ran cydraddoldeb a Brexit yng Nghymru. Ymatebodd y Prif Weinidog ar 23 Gorffennaf 2018.

 

Adroddiad

Cyhoeddodd y Pwyllgor Cydraddoldeb, Llywodraeth Leol a Chymunedau a’r Pwyllgor Materion Allanol a Deddfwriaeth Ychwanegol adroddiad ar eu canfyddiadau ar y cyd ar gydraddoldeb a Brexit ym mis Hydref 2018. Cynhaliwyd trafodaeth ar yr adroddiad yn y Cyfarfod Llawn ar 7 Tachwedd 2018.

Math o fusnes: Ymchwiliad Pwyllgor

Rheswm dros ei ystyried: Busnes y Senedd;

Statws: Wedi’i gwblhau

Cyhoeddwyd gyntaf: 20/02/2018

Dogfennau