P-05-803 Mae ein byd naturiol yn cael ei wenwyno gan blastigau untro...mae'n bryd cyflwyno treth!

P-05-803 Mae ein byd naturiol yn cael ei wenwyno gan blastigau untro...mae'n bryd cyflwyno treth!

Wedi'i gwblhau

 

Cyflwynwyd y ddeiseb hon gan Friends of Barry Beaches, ar ôl casglu 102 o lofnodion ar-lein.

 

Geiriad y ddeiseb

Mae'r dystiolaeth ar gael i'r rhai sydd am ei gweld ... mae ein dibyniaeth ar blastig untro a daflir i ffwrdd yn gwenwyno ein byd naturiol.

Mae adar y môr yn bwyta plastigau, mae pysgod yn bwyta plastigau, mae pysgod cregyn yn bwyta plastigau ac rydym ni, felly, yn bwyta plastigau.

Mae cynhyrchu plastigau untro yn cynyddu bob blwyddyn, ond dim ond 9 y cant o blastigau sy'n cael eu hailgylchu yn y byd.

Ers i gynhyrchu plastigau ar raddfa fawr ddechrau yn y 1950au, rydym wedi cynhyrchu 8.3 biliwn o dunelli ... yn gyfwerth â phwysau un biliwn o eliffantod Affricanaidd! A disgwylir i'r ffigur hwnnw gyrraedd 34 biliwn o dunelli erbyn 2050!!

Nid oes dim o'r plastig hwn wedi bioddiraddio yn ystod y cyfnod hwn, ond yn hytrach mae wedi parhau i leihau, gan ei wneud bron yn amhosibl i'w ddileu!

Rydym yn annog Llywodraeth Cymru i gyflwyno treth ar yr holl blastigau untro sy'n debyg i'r taliad 5p llwyddiannus iawn ar fagiau siopa untro.

Mae'n bryd gweithredu. 

 

Gwybodaeth ychwanegol:

Grŵp gwirfoddol yw Cyfeillion Traethau'r Barri, a sefydlwyd saith mlynedd yn ôl, y mae ei nod yw cael gwared â sbwriel, llawer ohono yn blastig, o bum prif draeth y Barri. Rydym yn ymdrechu i ailgylchu cymaint ohono ag y gallwn.

Mae angen inni ddylunio ein pecynnau a'n cynwysyddion untro fel eu bod yn bioddiraddio'n hawdd yn ein hamgylchedd.

 

 

Statws

Yn ei gyfarfod ar 16/03/2021 penderfynodd y Pwyllgor Deisebau fod y ddeiseb hon wedi'i chwblhau.

 

Caewyd y ddeiseb fel rhan o adolygiad o'r holl ddeisebau sy'n cael eu hystyried ar hyn o bryd yng nghyfarfod olaf y Pwyllgor Deisebau yn y Bumed Senedd, yng ngoleuni'r etholiad sydd i ddod a'r ystyriaeth a roddwyd i'r mater hwn hyd yma.

 

Gellir gweld manylion llawn ynghylch trafodaeth y Pwyllgor o'r ddeiseb hon a'r dogfennau cysylltiedig ar y tab Cyfarfodydd uchod.

Cafodd ei hystyried gyntaf gan y Pwyllgor Deisebau ar 13/03/2018.

 

Etholaeth a Rhanbarth y Senedd

  • Bro Morgannwg   
  • Canol De Cymru

 

Rhagor o wybodaeth

 

 

 

Math o fusnes: Deiseb

Rheswm dros ei ystyried: Busnes y Senedd;

Statws: Wedi’i gwblhau

Cyhoeddwyd gyntaf: 09/03/2018