P-05-804 Mae angen cyllid Llywodraeth Cymru ar gyfer chwarae!!

P-05-804 Mae angen cyllid Llywodraeth Cymru ar gyfer chwarae!!

Wedi'i gwblhau

 

Cyflwynwyd y ddeiseb hon gan RAY Ceredigion, ar ôl casglu 328 o lofnodion ar-lein.

 

Geiriad y ddeiseb:

Rydym yn galw ar Gynulliad Cenedlaethol Cymru i ddarparu cyllid dynodedig blynyddol i roi cymorth ariannol i bob Awdurdod Lleol wrth gyflawni eu dyletswydd yn unol â'u hasesiad o ddigonolrwydd cyfleoedd chwarae er mwyn osgoi cau darpariaethau chwarae agored megis RAY Ceredigion

 

 

Statws

Yn ei gyfarfod ar 23/07/2020 penderfynodd y Pwyllgor Deisebau fod y ddeiseb hon wedi'i chwblhau.

Yn dilyn ymrwymiad y Dirprwy Weinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol y bydd yr Adolygiad o Chwarae gan y Gweinidog yn cynnwys ystyried trefniadau cyllido a'r ohebiaeth a gafodd y Pwyllgor, cytunodd y Pwyllgor i gau'r ddeiseb a diolch i'r deisebydd am godi'r ddeiseb. Dywedodd Aelodau'r Pwyllgor y byddent yn parhau i graffu ar yr adolygiad gan y Gweinidog yn rhinwedd eu swydd fel Aelodau unigol o'r Senedd.

Gellir gweld manylion llawn ynghylch trafodaeth y pwyllgor o'r ddeiseb hon a'r dogfennau cysylltiedig ar y tab Cyfarfodydd uchod.

Cafodd ei hystyried gyntaf gan y Pwyllgor Deisebau ar 13/03/2018.

 

Etholaeth a Rhanbarth y Senedd

  • Ceredigion
  • Canolbarth a Gorllewin Cymru

 

Rhagor o wybodaeth

 

Math o fusnes: Deiseb

Rheswm dros ei ystyried: Busnes y Senedd;

Cyhoeddwyd gyntaf: 09/03/2018