Deddf Cyfraith sy’n Deillio o’r Undeb Ewropeaidd (Cymru) 2018

Deddf Cyfraith sy’n Deillio o’r Undeb Ewropeaidd (Cymru) 2018

Bil Brys Llywodraeth, a gyflwynwyd gan Mark Drakeford AC, Ysgrifennydd y Cabinet dros Gyllid.  Bil Brys yw Bil Llywodraeth y mae angen ei wneud yn Ddeddf yn gynt nag y mae proses ddeddfu pedwar cyfnod arferol y Cynulliad yn ei ganiatáu. Ni ddarperir diffiniad o Fil Brys yn Neddf Llywodraeth Cymru 2006 (“Deddf 2006”) nac yn Rheolau Sefydlog y Cynulliad. Fodd bynnag, dywed Rheol Sefydlog 26.95:

 

“Os yw’n ymddangos i aelod o’r llywodraeth fod angen Bil Brys, caiff gynnig bod Bil llywodraeth, a gyflwynir yn y Cynulliad, yn cael ei drin fel Bil Brys llywodraeth.”

 

Fel yn achos pob Bil Cynulliad, rhaid i Filiau Brys ymwneud ag un neu fwy o’r 21 Maes a gynhwysir yn Atodlen 7 i Ddeddf 2006 er mwyn iddynt fod o fewn cwmpas pwerau deddfwriaethol y Cynulliad. 

 

Gwybodaeth am y Bil

Bwriad y Bil yw diogelu cyfraith yr UE sy'n ymwneud â phynciau sydd wedi'u datganoli i Gymru ar ôl i'r DU adael yr UE. Ymhellach, bydd yn galluogi Gweinidogion Cymru i sicrhau bod deddfwriaeth sy'n ymdrin â'r pynciau hyn yn gweithredu'n effeithiol ar ôl i'r DU adael yr UE ac ar ôl i Ddeddf y Cymunedau Ewropeaidd 1972 gael ei diddymu gan Fil yr Undeb Ewropeaidd (Ymadael).

 

Bydd y Bil yn caniatáu i Weinidogion Cymru ddeddfu i sicrhau bod y drefn reoleiddio yn parhau i fod yn gyflin â threfn reoleiddio'r UE, a hynny er mwyn sicrhau bod gan fusnesau Cymreig fynediad parhaus at farchnad yr UE. Bydd hefyd yn creu sefyllfa ddiofyn yn y gyfraith lle bydd angen cydsyniad Gweinidogion Cymru cyn y gall Gweinidogion y DU wneud unrhyw newidiadau i ddeddfwriaeth ddatganoledig o fewn cwmpas cyfraith yr UE.

 

Mae rhagor o fanylion am y Bil i'w gweld yn y Memorandwm Esboniadol sy'n cyd-fynd ag ef.

 

Cyfnod presennol

Deddf

Daeth Deddf Cyfraith sy’n Deillio o’r Undeb Ewropeaidd (Cymru) 2018 yn gyfraith yng Nghymru ar 6 Mehefin 2018.

 

Cofnod o daith y Bil drwy Gynulliad Cenedlaethol Cymru

Mae’r tabl a ganlyn yn nodi’r dyddiadau ar gyfer pob cyfnod o daith y Bil drwy Gynulliad Cenedlaethol Cymru.

 

Cyfnod

Dogfennau

Cynnig i drin y Bil fel Bil Brys y Llywodraeth

 

Cynnig i gytuno ar amserlen

 

Cyflwynwyd ar 27 Chwefror 2018, i’w drafod ar 6 Mawrth 2018

 

Amserlen (PDF, 11KB)

Cyflwyno'r Bil: 7 Mawrth 2018

Bil Cyfraith sy’n Deillio o’r Undeb Ewropeaidd (Cymru), fel y'i cyflwynwyd (PDF, 166KB)

 

Memorandwm Esboniadol (PDF, 906KB)

 

Datganiad y Llywydd: 27 Chwefror 2018 (PDF, 128KB)

 

Datganiad y Llywydd: Nodyn i Aelodau’r Cynulliad - 27 Chwefror 2018 (PDF, 187KB)

 

Crynodeb o’r Bil

 

Y Pwyllgor yn trafod y Bil

Bydd Y Pwyllgor Materion Cyfansoddiadol a Deddfwriaethol yn trafod y Bil ar y dyddiadau canlynol:

 

Dyddiad ac Agenda

Diben y cyfarfod

Trawsgrifiad

Senedd.TV

12 Mawrth 2018

Ysgrifennydd y Cabinet dros Gyllid

12 Mawrth Trawsgrifiad

Gweld cyfarfod 12 Mawrth

 

Gosododd y Pwyllgor Materion Cyfansoddiadol a Deddfwriaethol ei adroddiad ar y Bil ar 13 Mawrth 2018.

Ymateb Ysgrifennydd y Cabinet dros Gyllid - 16 Mawrth 2018 [PDF 270 KB]

 

Cyfnod 1: Dadl yn y Cyfarfod Llawn ar yr egwyddorion cyffredinol

Cytunodd y Cynulliad ar egwyddorion cyffredinol y Bil ar ôl dadl Cyfnod 1 yn y Cyfarfod Llawn ar 13 Mawrth 2018.

Penderfyniad Ariannol

Cytunwyd ar Benderfyniad Ariannol ynghylch y Bil Cyfraith sy’n Deillio o’r Undeb Ewropeaidd (Cymru) yn y Cyfarfod Llawn ar 13 Mawrth 2018.

Cyfnod 2: Y Pwyllgor yn trafod gwelliannau

Ystyriwyd gwelliannau Cyfnod 2 yng nghyfarfod y Pwyllgor o’r Cynulliad Cyfan ar 20 Mawrth 2018.

 

Hysbysiadau ynghylch Gwelliannau

Hysbysiad ynghylch Gwelliannau – 15 Mawrth 2018 (PDF, 69KB)

Llywodraeth Cymru: Tabl Diben ac Effaith - 15 Mawrth 2018 (PDF, 186KB)

Hysbysiad ynghylch Gwelliannau – 16 Mawrth 2018 (PDF, 91KB)

Rhestr o Welliannau Wedi’u Didoli – 20 Mawrth 2018 (PDF, 98KB)

Grwpio Gwelliannau – 20 Mawrth 2018 (PDF, 67KB)

 

Bil Cyfraith sy’n Deillio o’r Undeb Ewropeaidd (Cymru), fel y’i diwygiwyd ar ôl Cyfnod 2 (PDF, 177KB) (Caiff y gwelliannau i’r Bil ers y fersiwn flaenorol eu nodi ar ochr dde’r dudalen)

 

Newidiadau argraffu i’r Bil fel y’i diwygiwyd yng Nghyfnod 2 (PDF, 135KB)

 

Cyfnod 3: Trafod y gwelliannau yn y Cyfarfod Llawn

Cafodd y gwelliannau eu hystyried a’u gwaredu yn ystod trafodion Cyfnod 3 yn y Cyfarfod Llawn ar 21 Mawrth 2018.

 

Hysbysiadau ynghylch Gwelliannau

Hysbysiad ynghylch Gwelliannau - 20 Mawrth 2018 (PDF, 82KB)

Llywodraeth Cymru: Tabl Diben ac Effaith - 20 Mawrth 2018 (PDF, 166KB)

Rhestr o Welliannau Wedi’u Didoli – 21 Mawrth 2018 (PDF, 79KB)

Grwpio Gwelliannau – 21 Mawrth 2018 (PDF, 67KB)

 

Bil Cyfraith sy’n Deillio o’r Undeb Ewropeaidd (Cymru), fel y’i diwygiwyd ar ôl Cyfnod 3 (PDF, 181KB) (Caiff y gwelliannau i’r Bil ers y fersiwn flaenorol eu nodi ar ochr dde’r dudalen)

 

Cyfnod 4: Pasio'r Bil yn y Cyfarfod Llawn

 

Cytunodd y Cynulliad ar y Bil ar 21 Mawrth 2018.

 

Bil Cyfraith sy’n Deillio o’r Undeb Ewropeaidd (Cymru), fel y’i pasiwyd (PDF, 181KB)

 

Datganiad y Llywydd - Adran 111A(3) o Ddeddf Llywodraeth Cymru 2006 - Bil Cyfraith sy’n Deillio o’r Undeb Ewropeaidd (Cymru) – 21 Mawrth 2018 (PDF, 187KB)

 

Ar ôl Cyfnod 4

Ysgrifennodd y Twrnai Cyffredinol at Brif Weithredwr a Chlerc y Cynulliad ar 17 Ebrill 2018 i roi gwybod y byddai'n cyfeirio'r Bil i'r Goruchaf Lys o dan Adran 112 o Ddeddf Llywodraeth Cymru 2006.

 

Ysgrifennodd Ysgrifennydd Gwladol Cymru at y Llywydd ar 16 Ebrill 2018 i roi gwybod nad oedd yn bwriadu gwneud Gorchymyn o dan Adran 114 o Ddeddf Llywodraeth Cymru 2006 ar hyn o bryd.

 

Ysgrifennodd Cwnsler Cyffredinol Cymru at Brif Weithredwr a Chlerc y Cynulliad ar 17 Ebrill 2018 i roi gwybod na fyddai’n cyfeirio’r Bil i’r Goruchaf Lys o dan Adran 112 o Ddeddf Llywodraeth Cymru 2006.

 

Ysgrifennodd y Cwnsler Cyffredinol at y Llywydd ar 23 Mai i roi gwybod iddi fod y Goruchel Lys wedi nodi’n ffurfiol fod proses gyfeirio'r Bil Cyfraith sy'n Deillio o'r Undeb Ewropeaidd (Cymru) wedi’i therfynu â chytundeb yr holl bleidiau perthnasol.

 

Ysgrifennodd Ysgrifennydd Gwladol Cymru at y Llywydd ar 16 Ebrill 2018 i roi gwybod nad oedd yn bwriadu gwneud Gorchymyn o dan Adran 114 o Ddeddf Llywodraeth Cymru 2006.

 

Dyddiad Cydsyniad Brenhinol

Rhoddwyd Cydsyniad Brenhinol (PDF, 60KB) ar 6 Mehefin 2018.

 

Gwybodaeth gyswllt

Clerc: Gareth Rogers

Ffôn: 0300 200 6357

 

Cyfeiriad post:

Cynulliad Cenedlaethol Cymru

Bae Caerdydd

Caerdydd, CF99 1NA

 

Cyfeiriad e-bost: deddfwriaeth@cynulliad.cymru

Math o fusnes: Bil

Rheswm dros ei ystyried: Busnes y Llywodraeth;

Statws: Wedi’i gwblhau

Cyhoeddwyd gyntaf: 07/03/2018

Dogfennau