Paratoadau ar gyfer yr hyn a fydd yn disodli ffrydiau cyllido'r UE yng Nghymru pan fydd y DU yn gadael yr UE

Paratoadau ar gyfer yr hyn a fydd yn disodli ffrydiau cyllido'r UE yng Nghymru pan fydd y DU yn gadael yr UE

Cynhaliodd y Pwyllgor Cyllid ymchwiliad i’r paratoadau ar gyfer yr hyn a fydd yn disodli ffrydiau cyllido'r UE yng Nghymru pan fydd y DU yn gadael yr UE.

Roedd ymchwiliad y Pwyllgor yn canolbwyntio ar y paratoadau ar gyfer yr hyn a fydd yn disodli ffrydiau cyllido’r UE pan fydd y DU yn gadael yr UE, a sut y gellid gweinyddu’r hyn a ddaw yn lle cyllid yr UE yng Nghymru.

Cylch gorchwyl yr ymchwiliad oedd:

 

  • Asesu’r gwaith cynllunio ariannol ar gyfer disodli ffrydiau ariannu yr Undeb Ewropeaidd yng Nghymru, a'r hyn sy’n cael ei wneud i baratoi ar gyfer gwahanol sefyllfaoedd posibl o ran lefelau cyllid a chyfrifoldeb gweinyddol.
  • Archwilio pa ddulliau o weinyddu'r hyn a fydd yn disodli ffrydiau ariannu yr Undeb Ewropeaidd a allai ddarparu'r gorau i Gymru, ac i ba raddau y gallai'r rhain ail-greu neu fod yn wahanol i'r trefniadau presennol.

 

Cyhoeddodd y Pwyllgor ei adroddiad (PDF 2MB) ar yr ymchwiliad yma yn Medi 2018. Ymatebodd Llywodraeth Cymru i adroddiad y Pwyllgor ar 7 Tachwedd 2018 (PDF, 649KB).

 

Sesiwn Dystiolaeth

Dyddiad, Agenda a Cofnodion

Trawsgrifiad

Fideo

1. Pwyllgor Monitro Rhaglenni Cymru

Julie Morgan AC, Cadeirydd Pwyllgor Monitro Rhaglenni Cymru

 

Dr Grahame Guilford, Llysgennad Cyllid yr UE

 

Sioned Evans, Prif Weithredwr, Swyddfa Cyllid Ewropeaidd Cymru

Dydd Mercher, 13 Mehefin 2018

Darllen trawsgrifiad o Sesiwn Dystiolaeth 1

Gwylio Sesiwn Dystiolaeth 1 ar Senedd TV

2. Cymdeithas Llywodraeth Leol Cymru

Y Cynghorydd Rob Stewart, Arweinydd, Cyngor Abertawe a Dirprwy Arweinydd Cymdeithas Llywodraeth Leol Cymru a llefarydd ar Ddatblygu Economaidd, Ewrop ac Ynni

 

Tim Peppin, Cyfarwyddwr Materion Adfywio a Datblygu Cynaliadwy, Cymdeithas Llywodraeth Leol Cymru

Dydd Mercher, 13 Mehefin 2018

Darllen trawsgrifiad o Sesiwn Dystiolaeth 2

Gwylio Sesiwn Dystiolaeth 2 ar Senedd TV

3. Dr Hywel Ceri Jones, Cyn Lysgennad Cyllid Ewropeaidd

Cafodd y sesiwn yma ei ganslo oherwydd salwch.

4. Sefydliad Bevan

Victoria Winckler, Cyfarwyddwr Sefydliad Bevan

Dydd Iau, 21 Mehefin 2018

Darllen trawsgrifiad o Sesiwn Dystiolaeth 4

Gwylio Sesiwn Dystiolaeth 4 ar Senedd TV

5. Y Sefydliad Siartredig Cyllid Cyhoeddus a Chyfrifyddiaeth

Alan Bermingham, y Sefydliad Siartredig Cyllid Cyhoeddus a Chyfrifyddiaeth

Dydd Iau, 21 Mehefin 2018

Darllen trawsgrifiad o Sesiwn Dystiolaeth 5

Gwylio Sesiwn Dystiolaeth 5 ar Senedd TV

6. Yr Athro Steve Fothergill, Prifysgol Hallam, Sheffield

Yr Athro David Bell, Prifysgol Stirling

Yr Athro Terry Marsden, Prifysgol Caerdydd

Dydd Iau, 21 Mehefin 2018

Darllen trawsgrifiad o Sesiwn Dystiolaeth 6

Gwylio Sesiwn Dystiolaeth 6 ar Senedd TV

7. Ysgrifennydd y Cabinet dros Ynni, Cynllunio a Materion Gwledig

Lesley Griffiths AC, Ysgrifennydd y Cabinet dros Ynni, Cynllunio a Materion Gwledig

Tim Render, Cyfarwyddwr, Amgylchedd a Materion Gwledig

Tony Clark, Pennaeth Cyllid, Adnoddau Naturiol a Bwyd

Dydd Mercher, 27 Mehefin 2018

Darllen trawsgrifiad o Sesiwn Dystiolaeth 7

Gwylio Sesiwn Dystiolaeth 7 ar Senedd TV

8. Ysgrifennydd y Cabinet dros Gyllid

Mark Drakeford AC, Ysgrifennydd y Cabinet dros Gyllid

Peter Ryland, Prif Swyddog Gweithredu, Swyddfa Cyllid Ewropeaidd Cymru

Dydd Mercher, 27 Mehefin 2018

Darllen trawsgrifiad o Sesiwn Dystiolaeth 8

Gwylio Sesiwn Dystiolaeth 8 ar Senedd TV

 

Math o fusnes: Ymchwiliad Pwyllgor

Rheswm dros ei ystyried: Busnes y Senedd;

Statws: Wedi’i gwblhau

Cyhoeddwyd gyntaf: 07/03/2018

Dogfennau

Ymgynghoriadau