P-05-808 Ni ddylai Cymraeg fod yn orfodol i blant â dyslecsia ac anghenion arbennig

P-05-808 Ni ddylai Cymraeg fod yn orfodol i blant â dyslecsia ac anghenion arbennig

Wedi'i gwblhau

 

Cyflwynwyd y ddeiseb hon gan Jessica Fox, ar ôl casglu 81 o lofnodion ar-lein.

 

Geiriad y ddeiseb

Fel llawer o blant eraill yn y Deyrnas Unedig, mae fy mab yn dioddef o dyslecsia. Mae ysgrifennu a darllen Saesneg yn her ddyddiol felly dychmygwch orfod dysgu darllen ac ysgrifennu iaith arall na fyddwch byth yn ei defnyddio. Dyma beth mae fy mab yn gorfod ei wneud bob dydd gan ein bod yn byw yng Nghymru. Rwyf wedi ceisio ei dynnu o’r gwersi Cymraeg fel y gall gael gwersi Saesneg ychwanegol ond mae’n rhwymedigaeth gyfreithiol i’r ysgol ddysgu Cymraeg yng Nghymru. Mae’n her ddyddiol i blant â dyslecsia sy’n byw yng Nghymru. Dylai Cymraeg fod yn ddewisol i blant â dyslecsia ac anghenion arbennig, ac nid yn orfodol.

 

 

Statws

Yn ei gyfarfod ar 19/03/2019 penderfynodd y Pwyllgor Deisebau fod y ddeiseb hon wedi'i chwblhau.

Trafododd y Pwyllgor ohebiaeth gan riant arall ond, yng ngoleuni'r pwerau presennol sydd gan benaethiaid i ddatgymhwyso agweddau ar y Cwricwlwm Cenedlaethol dros dro, gan gynnwys y posibilrwydd o eithrio pynciau penodol dros dro, cytunodd y Pwyllgor i gau'r ddeiseb.

Cafodd ei hystyried gyntaf gan y Pwyllgor Deisebau ar 01/05/2018.

 

Etholaeth a Rhanbarth y Cynulliad

·         Dwyrain Casnewydd

·         Dwyrain De Cymru    

 

Rhagor o wybodaeth

 

 

 

 

 

Math o fusnes: Deiseb

Rheswm dros ei ystyried: Busnes y Senedd;

Statws: Wedi’i gwblhau

Cyhoeddwyd gyntaf: 16/04/2018