P-05-812 Dylid gweithredu canllawiau NICE ar gyfer trin Anhwylder Personoliaeth Ffiniol

P-05-812 Dylid gweithredu canllawiau NICE ar gyfer trin Anhwylder Personoliaeth Ffiniol

Wedi'i gwblhau

P-05-812 Dylid gweithredu canllawiau NICE ar gyfer trin Anhwylder Personoliaeth Ffiniol

 

Cyflwynwyd y ddeiseb hon gan Keir Harding, ar ôl casglu 137 o lofnodion ar-lein.

 

Geiriad y ddeiseb

Rydym yn galw ar Lywodraeth Cymru i sicrhau bod ymddiriedolaethau GIG yng Nghymru yn gweithredu canllawiau NICE ar gyfer trin Anhwylder Personoliaeth Ffiniol neu gyfiawnhau pam nad ydynt yn gwneud hynny.

 

Cyhoeddwyd dogfen o’r enw No Longer a Diagnosis of Exclusion, a oedd yn amlygu bod y rhai a gafodd ddiagnosis o anhwylder personoliaeth yn cael eu cam-drin, yn 2003.

Cyhoeddwyd canllawiau NICE ar gyfer Anhwylder Personoliaeth Ffiniol yn 2009. Naw mlynedd yn ddiweddarach, ac mae llai na hanner ymddiriedolaethau Cymru yn darparu gwasanaethau sy’n cydymffurfio â’r canllawiau. Mae hyn yn cymharu ag 84 y cant yn Lloegr.

Mae pobl sydd â’r diagnosis hwn yn aml yn dod o gefndiroedd o gamdriniaeth ac esgeulustod.
Bydd 1 o bob 10 o bobl gyda’r diagnosis hwn yn marw drwy hunanladdiad.
Darganfu’r Ymchwiliad Cyfrinachol Cenedlaethol i Ddynladdiad a Hunanladdiad, o’r 1 o bob 10 o bobl a derfynodd eu bywydau dros gyfnod eu hastudiaeth, nid oedd yr un ohonynt yn derbyn gofal a argymhellir gan NICE.

Mae arbenigwyr yn y maes yn rhybuddio y bydd ymddiriedolaethau iechyd nad oes ganddynt wasanaethau arbenigol yn or-ddibynnol ar driniaeth breifat y tu allan i’r ardal. Cefnogwyd y farn hon gan gynrychiolwyr o ymddiriedolaethau nad oes ganddynt wasanaethau arbenigol yn y gynhadledd Anhwylder Personoliaeth Cymru yng Nghaerdydd yn 2016.

Rhaid inni wneud rhagor i gefnogi’r rhai sydd wedi goroesi camdriniaeth, ac wedi cael digon o gam eisoes.

Rhaid inni hefyd wneud rhagor i amddiffyn trethdalwyr Cymru, drwy ddarparu gwasanaethau cymunedol effeithiol yn hytrach na lleoliadau trin drud y tu allan i’r ardal.

Rydym yn galw ar Lywodraeth Cymru i sicrhau bod ymddiriedolaethau GIG yng Nghymru yn gweithredu canllawiau NICE ar gyfer trin Anhwylder Personoliaeth Ffiniol neu gyfiawnhau pam nad ydynt yn gwneud hynny.

Title: Llun: Logo Llywodraeth Cymru

 

Statws

Yn ei gyfarfod ar 26/01/2021 penderfynodd y Pwyllgor Deisebau fod y ddeiseb hon wedi'i chwblhau.

 

Trafododd y Pwyllgor yr ohebiaeth a ddaeth i law, a chytunodd i ysgrifennu at y Pwyllgor Iechyd, Gofal Cymdeithasol a Chwaraeon i ofyn a yw wedi ymgymryd ag unrhyw waith ynghylch gweithredu canllawiau NICE yn ystod y Senedd hon, neu a fyddai hwn yn faes y byddai'n ystyried ei argymell i bwyllgor olynol yn y Chweched Senedd. Yn dilyn hynny, cytunodd y Pwyllgor i gau'r ddeiseb a diolch i'r deisebydd.

 

Gellir gweld manylion llawn ynghylch trafodaeth y pwyllgor o'r ddeiseb hon a'r dogfennau cysylltiedig ar y tab Cyfarfodydd uchod.

Cafodd ei hystyried gyntaf gan y Pwyllgor Deisebau ar 15/05/2018.

 

Etholaeth a Rhanbarth y Cynulliad

 

Rhagor o wybodaeth

 

 

 

 

Math o fusnes: Deiseb

Rheswm dros ei ystyried: Busnes y Senedd;

Statws: Wedi’i gwblhau

Cyhoeddwyd gyntaf: 25/04/2018