P-05-807 Dylid adolygu a newid y canllawiau o ran gwobrau am bresenoldeb mewn ysgolion yng Nghymru

P-05-807 Dylid adolygu a newid y canllawiau o ran gwobrau am bresenoldeb mewn ysgolion yng Nghymru

Wedi'i gwblhau

 

P-05-807 Dylid adolygu a newid y canllawiau o ran gwobrau am bresenoldeb mewn ysgolion yng Nghymru

 

Cyflwynwyd y ddeiseb hon gan Laura Charles-Price, ar ôl casglu 123 o lofnodion ar-lein.

 

Geiriad y ddeiseb

Rydym yn galw ar Gynulliad Cenedlaethol Cymru i annog Llywodraeth Cymru i adolygu unrhyw ganllawiau y mae’n eu rhoi o ran gwobrau am bresenoldeb mewn ysgolion yng Nghymru.​

Mae llawer o blant ledled Cymru yn dioddef o salwch cronig sy'n effeithio ar eu presenoldeb yr ysgol. Gall plentyn golli ysgol oherwydd y salwch ei hun neu oherwydd apwyntiadau ysbyty y mae'n rhaid iddo fynd iddynt mewn cysylltiad â'r salwch.

 

Caiff gwobrau am bresenoldeb, y mae llawer o'r plant hyn yn colli cyfle i'w hennill, eu cyflwyno gan ysgolion bob blwyddyn. Mae hyn yn annheg, ac mae hefyd yn gwahaniaethu yn erbyn y plant hyn.


Hoffwn gynnig bod Llywodraeth Cymru naill ai'n cyflwyno ystyriaethau ar gyfer y plant hyn, neu'n cynghori awdurdodau lleol ac ysgolion na ddylid rhoi gwobrau am bresenoldeb.

 

Byrddau a chadeiriau

 

Statws

Yn ei gyfarfod ar 04/02/2020 penderfynodd y Pwyllgor Deisebau fod y ddeiseb hon wedi'i chwblhau.

Ystyriodd y Pwyllgor ragor o ohebiaeth, a chytunodd i gau’r ddeiseb yng ngoleuni’r ffaith bod Llywodraeth Cymru ar hyn o bryd yn adolygu ei chanllawiau ar bresenoldeb mewn ysgolion ac mae’n bwriadu cynnal ymgynghoriad cyhoeddus yn y dyfodol, a’r ymrwymiad a wnaed gan y Gweinidog Addysg bod cyflwyno’r posibilrwydd o gofnodi absenoldebau fel rhai sy’n gysylltiedig â chyflwr iechyd cronig yn cael ei ystyried fel rhan o’r gwaith hwnnw.

Gellir gweld manylion llawn ynghylch trafodaeth y pwyllgor o'r ddeiseb hon a'r dogfennau cysylltiedig ar y tab Cyfarfodydd uchod.

Cafodd ei hystyried gyntaf gan y Pwyllgor Deisebau ar 17/04/2018.

 

Etholaeth a Rhanbarth y Cynulliad

  • Gŵyr 
  • Gorllewin De Cymru

 

Rhagor o wybodaeth

Math o fusnes: Deiseb

Rheswm dros ei ystyried: Busnes y Senedd;

Statws: Wedi’i gwblhau

Cyhoeddwyd gyntaf: 09/04/2018