NDM6719 - Dadl y Ceidwadwyr Cymreig
NDM6719 - Dadl y Ceidwadwyr Cymreig
NDM6719
Paul
Davies (Preseli Sir Benfro)
Cynnig bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru:
1. Yn nodi bod y gyfradd newydd o chwech y cant ar gyfer treth
trafodiadau tir ar drafodiadau tir masnachol dros £1 miliwn yn sylweddol uwch
na'r cyfraddau cyfatebol ar gyfer trafodiadau o'r fath yn Lloegr (pump y
cant) a'r Alban (4.5 y cant).
2. Yn nodi bod Llywodraeth Cymru wedi cwblhau'r
broses oddeutu £12 miliwn i brynu safle gorsaf bysiau Caerdydd ar 29
Mawrth 2018, gan felly osgoi ei chyfundrefn dreth trafodiadau tir ei hun gan
dri diwrnod a sicrhau bod y trafodiad wedi digwydd o dan dreth dir y dreth
stamp Llywodraeth y DU.
3. Yn galw ar Lywodraeth Cymru, yn sgil sylwadau gan y
sector, i ailystyried y gyfradd newydd o chwech y cant ar gyfer y dreth
trafodiadau tir newydd ar drafodion tir masnachol dros £1 miliwn a fydd yn cael
effaith andwyol ar ddatblygu economaidd yng Nghymru.
Math o fusnes: Dadl
Rheswm dros ei ystyried: Busnes y Senedd;
Statws: Wedi’i gwblhau
Cyhoeddwyd gyntaf: 16/05/2018
Angen Penderfyniad: 9 Mai 2018 Yn ôl Y Cyfarfod Llawn - Y Bumed Senedd