Amaethyddiaeth a Brexit: Sesiwn Bwyllgor i nodi themâu allweddol

Amaethyddiaeth a Brexit: Sesiwn Bwyllgor i nodi themâu allweddol

Y cefndir

Trefnodd y Pwyllgor Materion Allanol a Deddfwriaeth Ychwanegol gyfarfod gyda thystion arbenigol i glywed am y materion allweddol ym maes amaethyddiaeth yng Nghymru yng nghyd-destun Brexit.

Roedd y cyfarfod yn gyfle i’r Pwyllgor feithrin dealltwriaeth well o rai o’r materion amaethyddol allweddol sy’n codi yn sgil Brexit, a’r bwriad yw prif-ffrydio’r ystyriaethau hyn yn ei waith yn y dyfodol.

Casglu tystiolaeth

Mae'r Pwyllgor eisoes wedi trafod rhai o'r materion hyn yn ei adroddiad, Y Goblygiadau i Gymru yn Sgil Gadael yr Undeb Ewropeaidd.

Cynhaliodd Pwyllgor Newid Hinsawdd, yr Amgylchedd a Materion Gwledig y Cynulliad ymchwiliadau i effaith Brexit ar bysgodfeydd yng Nghymru ac i fframweithiau cyffredin y DU ar amaethyddiaeth a'r amgylchedd . Dilynwch y lincs i ddarllen mwy am y gwaith hwn.

21 Mai 2018 cynhaliodd y Pwyllgor sesiynau panel ar effaith Brexit ar amaethyddiaeth.

Math o fusnes: Arall

Statws: Wedi’i gwblhau

Cyhoeddwyd gyntaf: 16/05/2018