Deddf Rhentu Cartrefi (Ffioedd etc.) (Cymru) 2019

Deddf Rhentu Cartrefi (Ffioedd etc.) (Cymru) 2019

Bil Llywodraeth Cymru a gyflwynwyd gan Rebecca Evans AC, y Gweinidog Tai ac Adfywio ar y pryd. Ar 6 Ionawr 2019, rhoes y Prif Weinidog awdurdod i Julie James AS, y Gweinidog Tai a Llywodraeth Leol, fel yr Aelod newydd sy’n gyfrifol am y Bil. Cyfeiriodd y Pwyllgor Busnes y Bil at y Pwyllgor Cydraddoldeb, Llywodraeth Leol a Chymunedau.

Y Bil

Roedd y Bil yn cynnwys darpariaeth ar gyfer:

  • gwahardd taliadau penodol a wneir mewn cysylltiad â chaniatáu ac adnewyddu contractau galwedigaethol safonol, neu barhau â chontractau o’r fath; ac
  • ymdrin ag adneuon dros dro.

Mae rhagor o fanylion am y Bil i’w gweld yn y Memorandwm Esboniadol sy’n cyd-fynd ag ef.

Cam cyfredol

BillStageAct

Daeth Deddf Rhentu Cartrefi (Ffioedd etc.) (Cymru) 2019 (gwefan allanol) yn gyfraith yng Nghymru (gwefan allanol) ar 15 Mai 2019.

Cofnod o daith drwy’r Senedd

Mae’r tabl a ganlyn yn nodi’r dyddiadau ar gyfer pob cyfnod o daith y Bil drwy’r Senedd.

Cyfnod

Dogfennau

Cyflwyno’r Bil: 11 Mehefin 2018

Y Bil Rhentu Cartrefi (Ffioedd etc.) (Cymru), fel y’i cyflwynwyd

Memorandwm Esboniadol

Datganiad y Llywydd: 11 Mehefin 2018

Datganiad ar fwriad polisi’r Bil

Adroddiad y Pwyllgor Busnes ar yr amserlen ar gyfer trafod y Bil: 13 Mehefin 2018

Geirfa’r Gyfraith

Cyfnod 1: Y Pwyllgor yn trafod yr egwyddorion cyffredinol

Ymgynghoriad Cyhoeddus. Cyhoeddodd y Pwyllgor galwad am dystiolaeth, a ddaeth i ben ar 7 Medi 2018.

Gohebiaeth

Llythyr ar y cyd gan randdeiliaid (23 Gorffennaf 2018) (Saesneg yn unig)

Llythyr gan y Gweinidog Tai ac Adfywio (4 Medi 2018)

Llythyr gan y Gweinidog Tai ac Adfywio (27 Tachwedd 2018)

Llythyr gan y Gweinidog Tai a Llywodraeth Leol (14 Mawrth 2019)

Gwaith ymgysylltu

Crynodeb trafodaethau grwpiau ffocws

Crynodeb o gyflwyniadau i’r Dialogue ar-lein (Saesneg yn unig)

 

Adroddiad

Cyhoeddodd y Pwyllgor ei adroddiad Cyfnod 1 ar y Bil ym mis Hydref 2018.

Mae’r Fideo Spark yn darparu mwy o wybodaeth am yr adroddiad.

Dyddiadau’r Pwyllgor

Trafododd y Pwyllgor y Bil ar y dyddiadau a ganlyn:

Dyddiad ac Agenda

Diben y cyfarfod

Trawsgrifiad

Senedd.tv

13 Mehefin 2018

Trafod sut y bydd y Pwyllgor yn ymdrin â gwaith craffu Cyfnod 1 (Preifat)

Preifat

Preifat

13 Mehefin 2018

Briffio (preifat)

Preifat

Preifat

21 Mehefin 2018

Sesiynau tystiolaeth lafar

Trawsgrifiad

Gweld y cyfarfod

5 Gorffennaf 2018

Sesiynau tystiolaeth lafar

Trawsgrifiad

Gweld y cyfarfod

11 Gorffennaf 2018

Sesiynau tystiolaeth lafar

Trawsgrifiad

Gweld y cyfarfod

19 Medi 2018

Sesiynau tystiolaeth lafar

Trawsgrifiad

Gweld y cyfarfod

19 Medi 2018

Trafod y materion allweddol

Preifat

Preifat

11 Hydref 2018

Trafodaeth breifat ar gynnwys yr adroddiad

Preifat

Preifat

Trafododd y Pwyllgor Materion Cyfansoddiadol a Deddfwriaethol y Bil ar y dyddiadau canlynol:

 

Dyddiad ac agenda

Pwrpas y cyfarfod

Trawsgrifiad

Senedd.TV

24 Medi 2018

Sesiyn Tystiolaeth Lafar – Y Gweinidog Tai ac Adfywio

Trawsgrifiad

Gweld y cyfarfod

 

Gosododd y Pwyllgor Materion Cyfansoddiadol a Deddfwriaethol ei adroddiad ar y Bil (PDF, 539kB) ar 24 Hydref 2018

 

Llythyr gan y Prif Weinidog at Gadeirydd y Pwyllgor Materion Cyfansoddiadol a Deddfwriaethol - 14 Tachwedd 2018

 

Llythyr gan Gadeirydd y Pwyllgor Materion Cyfansoddiadol a Deddfwriaethol at y Prif Weinidog - 24 Hydref 2018

 

Trafododd y Pwyllgor Cyllid y Bil ar y dyddiadau canlynol:

 

Dyddiad ac agenda

Pwrpas y cyfarfod

Trawsgrifiad

Senedd.TV

3 Hydref 2018

Sesiyn Tystiolaeth Lafar – Y Gweinidog Tai ac Adfywio

Trawsgrifiad

Gweld y cyfarfod

 

Gosododd y Pwyllgor Cyllid ei adroddiad ar 24 Hydref 2018 (PDF, 407KB).

 

Cyfnod 1: Dadl yn y Cyfarfod Llawn ar yr egwyddorion cyffredinol

Cytunodd y Cynulliad ar egwyddorion cyffredinol y Bil ar ôl dadl Cyfnod 1 yn y Cyfarfod Llawn ar 6 Tachwedd 2018.

Penderfyniad Ariannol

Cytunwyd ar Benderfyniad Ariannol ynghylch y Bil Rhentu Cartrefi (Ffioedd etc.) (Cymru) yn y Cyfarfod Llawn ar 6 Tachwedd 2018.

Cyfnod 2: Y Pwyllgor yn trafod gwelliannau

Cytunodd y Pwyllgor Cydraddoldeb, Llywodraeth Leol a Chymunedau ar 7 Tachwedd 2018 o dan Reol Sefydlog 26.21 mai dyma fydd y drefn ystyried ar gyfer trafodion Cyfnod 2: Adrannau 1 i 4; Atodlen 1; Adrannau 5 i 9; Atodlen 2; Adrannau 9 i 25; Teitl hir.

Hysbysiad ynghylch gwelliannau – 20 Tachwedd 2018

Llywodraeth Cymru: Tabl Diben ac Effaith – 20 Tachwedd 2018

Hysbysiad ynghylch gwelliannau – 22 Tachwedd 2018 fersiwn 4

Rhestr o Welliannau wedi'u didoli - 29 Tachwedd 2018 (fersiwn 3)

Grwpio Gwelliannau - 29 Tachwedd 2018

Ystyriwyd gwelliannau Cyfnod 2 yng nghyfarfod y Pwyllgor ar 29 Tachwedd 2018.

Cofnodion cryno: 29 Tachwedd 2018

Bil Rhentu Cartrefi (Ffioedd etc.) (Cymru), fel y’i diwygiwyd ar ôl Cyfnod 2

(Caiff y gwelliannau i’r Bil ers y fersiwn flaenorol eu nodi ar ochr dde’r dudalen.)

Memorandwm Esboniadol Diwygiedig

 

Newidiadau Argraffu i’r Bil fel y’i diwygiwyd ar ôl Cyfnod 2

 

Cyfnod 3: Trafod y gwelliannau yn y Cyfarfod Llawn

 

Cytunodd Cynulliad Cenedlaethol Cymru ar 8 Ionawr 2019 o dan Reol Sefydlog 26.21 mai dyma fydd y drefn ystyried ar gyfer trafodion Cyfnod 3: adrannau 2 – 4; atodlen 1; adrannau 5 – 9; atodlen 2; adrannau 10 – 26; adran 1; teitl hir.

 

Cynhaliwyd trafodion Cyfnod 3 yn y Cyfarfod Llawn ar 19 Mawrth 2019 pan drafodwyd y gwelliannau i’r Bil (fel y’i diwygiwyd yn ystod Cyfnod 2).

Hysbysiad ynghylch gwelliannau – 15 Chwefror 2019 (fersiwn 2)

Llywodraeth Cymru: Tabl Diben ac Effaith – 15 Chwefror 2019

Hysbysiad ynghylch gwelliannau – 7 Mawrth 2019 (Fersiwn 2)

Hysbysiad ynghylch gwelliannau – 12 Mawrth 2019

Rhestr o welliannau wedi’u didoli – 19 Mawrth 2019

Grwpio gwelliannau – 19 Mawrth 2019

Bil Rhentu Cartrefi (Ffioedd etc.) (Cymru), fel y’i diwygiwyd ar ôl Cyfnod 3

Cyfnod 4: Pasio’r Bil yn y Cyfarfod Llawn

Cytunodd y Cynulliad ar y Bil ar 27 Mawrth 2019.

Bil Rhentu Cartrefi (Ffioedd etc.) (Cymru), fel y’i pasiwyd

Ar ôl Cyfnod 4

 

Ysgrifennodd y Cyfreithiwr Cyffredinol (Saesneg yn unig), ar ran y Twrnai Cyffredinol, Cwnsler Cyffredinol ac Ysgrifennydd Gwladol Cymru (Saesneg yn unig) at y Llywydd i'w hysbysu na fyddent yn cyfeirio Bil Rhentu Cartrefi (Ffioedd etc.) (Cymru) at y Goruchaf Lys o dan Adrannau 112 neu 114 o Ddeddf Llywodraeth Cymru 2006.

Dyddiad Cydsyniad Brenhinol

Rhoddwyd Cydsyniad Brenhinol ar 15 Mai 2019.

 

Math o fusnes: Bil

Rheswm dros ei ystyried: Busnes y Llywodraeth;

Statws: Wedi’i gwblhau

Cyhoeddwyd gyntaf: 11/06/2018

Dogfennau

Ymgynghoriadau