Cyfraith yr Undeb Ewropeaidd yng Nghymru: Beth fydd yn digwydd yn ystod cyfnod pontio Brexit?
Cyfraith yr Undeb Ewropeaidd yng Nghymru: Beth fydd yn digwydd yn ystod cyfnod pontio Brexit?
Cefndir
Ar 19 Mawrth
2018, cyhoeddodd y cyn Ysgrifennydd Gwladol dros Adael yr UE, David Davis, a
Phrif Negodwr yr UE fod y DU a’r UE wedi dod i gytundeb gwleidyddol ynghylch y
cyfnod pontio a chyhoeddwyd fersiwn bellach o’r testun cyfreithiol drafft ar
gyfer y Cytundeb
Ymadael [Saesneg yn unig].
Roedd paragraff 1
o Erthygl 127 o’r Cytundeb Ymadael yn nodi:
“Unless otherwise
provided in this Agreement, Union law shall be applicable to and in the United
Kingdom during the transition period.”
Roedd yr
ymchwiliad hwn yn canolbwyntio ar ddechrau archwilio beth allai’r trefniadau
pontio fod a’r math o drefniadau y gallai Llywodraeth Cymru a’r Cynulliad eu
paratoi cyn 29 Mawrth 2019.
Cylch gorchwyl
Nod y Pwyllgor Materion Allanol a Deddfwriaeth
Ychwanegol oedd deall sut y byddai cyfraith yr Undeb Ewropeaidd yn cael
effaith yng Nghymru yn ystod cyfnod pontio Brexit (29 Mawrth i 31 Rhagfyr
2020), gan gynnwys rôl craffu Gweinidogion Cymru a’r Cynulliad.
Dyma rai o’r
cwestiynau y gofynodd y Pwyllgor:
Ar lefel Cymru
a’r DU
- Pa broses fydd yn ei lle i drosi,
gweithredu a gorfodi cyfraith yr UE yn ystod y cyfnod pontio?
- Pa rôl ddylai Llywodraeth Cymru a’r
Cynulliad ei chael yn y broses hon?
- Pa drefniadau fydd angen i’r
Cynulliad eu trafod o ran ei waith craffu?
- Sut y gall gwaith craffu’r Cynulliad
ryngweithio â system graffu Senedd y DU o ran materion Ewropeaidd?
- A fydd strwythur rhynglywodraethol o
fewn y DU wedi’i sefydlu i gefnogi’r broses hon (fel y Cyd-bwyllgor
Gweinidogion Ewropeaidd cyfredol)?
- Pa rôl y gall Aelodau’r Cynulliad ei
chwarae wrth ddatblygu cynigion deddfwriaethol yr UE yn ystod y cyfnod
pontio?
- Sut bydd y ddau Fil ymadael (Bil yr
Undeb Ewropeaidd (Ymadael) a’r Cytundeb Ymadael a'r Bil Gweithredu (Bil y
DU)) yn rhyngweithio o ran y cyfnod pontio?
Ar lefel yr UE a’r DU
- Sut y caiff barn Llywodraeth Cymru
a’r Cynulliad ar ddeddfau drafft yr UE mewn meysydd datganoledig ei
chyfleu i’r Undeb Ewropeaidd?
- A fydd Llywodraeth Cymru yn cael ei
chynrychioli ar Gyd-bwyllgor yr UE a’r DU a fydd yn cael ei sefydlu o dan
y cytundeb ymadael?
- Sut ddylai’r Cynulliad graffu ar
waith Gweinidogion Cymru yn y cyd-destun hwn?
Math o fusnes: Ymchwiliad Pwyllgor
Rheswm dros ei ystyried: Busnes y Senedd;
Statws: Wedi’i gwblhau
Cyhoeddwyd gyntaf: 31/05/2018
Dogfennau
- Gohebiaeth oddi wrth Robin Walker AS, yr Is-ysgrifennydd Gwladol Seneddol ar gyfer Ymadael â'r UE ynghylch Cyfraith yr UE yng Nghymru: Beth fydd yn digwydd yn ystod cyfnod pontio Brexit? - 13 Awst 2018 [Saesneg yn unig] PDF 111 KB
- Gohebiaeth oddi wrth Mark Drakeford, Ysgrifennydd y Cabinet dros Gyllid ynghylch Beth fydd yn digwydd yn ystod cyfnod pontio Brexit? – 10 Awst 2018 PDF 199 KB
- Gohebiaeth gan Syr William Cash, Cadeirydd Pwyllgor Craffu Ewrop a'r Arglwydd Boswell, Cadeirydd Pwyllgor Dethol yr UE at Dominic Raab AS, yr Ysgrifennydd Gwladol dros Ymadael â'r Undeb Ewropeaidd ynghylch craffu ar ddogfennau'r UE yn ystod cyfnod pontio neu gyfnod gweithredu ar ôl ymadael - 24 Gorffennaf 2018 [Saesneg yn unig] PDF 493 KB
- Gohebiaeth i Llywydd ynghylch Cyfraith yr UE yng Nghymru: Beth fydd yn digwydd yn ystod cyfnod pontio - 23 Gorffennaf 2018 PDF 322 KB
- Gohebiaeth i Mark Drakeford, Ysgrifennydd y Cabinet dros Gyllid ynghylch Beth fydd yn digwydd yn ystod cyfnod pontio Brexit? - 20 Gorffennaf 2018 PDF 171 KB
- Gohebiaeth i Syr William Cash, Cadeirydd Pwyllgor Craffu Ewrop ynghylch Cyfraith yr UE yng Nghymru: Beth fydd yn digwydd yn ystod cyfnod pontio Brexit? - 20 Gorffennaf 2018 [Saesneg yn unig] PDF 158 KB
- Gohebiaeth i Arglwydd Boswell, Cadeirydd Pwyllgor Dethol yr UE ynghylch Cyfraith yr UE yng Nghymru: Beth fydd yn digwydd yn ystod cyfnod pontio Brexit? - 20 Gorffennaf 2018 [Saesneg yn unig] PDF 158 KB
- Gohebiaeth i Robin Walker AS, yr Is-ysgrifennydd Gwladol Seneddol ar gyfer Ymadael â'r UE ynghylch Cyfraith yr UE yng Nghymru: Beth fydd yn digwydd yn ystod cyfnod pontio Brexit? - 20 Gorffennaf 2018 [Saesneg yn unig] PDF 160 KB
- Gohebiaeth oddi wrth Robin Walker AS, yr Is-ysgrifennydd Gwladol Seneddol ar gyfer Ymadael â'r UE ynghylch Cyfraith yr UE yng Nghymru: Beth fydd yn digwydd yn ystod cyfnod pontio Brexit? - 20 Mehefin 2018 [Saesneg yn unig] PDF 157 KB
- Gohebiaeth oddi wrth Mark Drakeford, Ysgrifennydd y Cabinet dros Gyllid ynghylch Beth fydd yn digwydd yn ystod cyfnod pontio Brexit? 19 Mehefin 2018 PDF 194 KB
- Gohebiaeth i Mark Drakeford, Ysgrifennydd y Cabinet dros Gyllid ynghylch Beth fydd yn digwydd yn ystod cyfnod pontio Brexit? - 23 Mai 2018 PDF 170 KB
- Gohebiaeth i Robin Walker AS, yr Is-ysgrifennydd Gwladol Seneddol ar gyfer Ymadael â'r UE ynghylch Cyfraith yr UE yng Nghymru: Beth fydd yn digwydd yn ystod cyfnod pontio Brexit? - 23 Mai 2018 [Saesneg yn unig] PDF 168 KB