NDM6738 Dadl y Ceidwadwyr Cymreig - Gofalwyr

NDM6738 Dadl y Ceidwadwyr Cymreig - Gofalwyr

NDM6738 Paul Davies (Preseli Sir Benfro)

Cynnig bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru:

1. Yn nodi mai 11 - 17 Mehefin yw wythnos y gofalwyr 2018.

2. Yn cydnabod y cyfraniad hanfodol sy'n cael ei wneud i gymdeithas yng Nghymru gan y rolau y mae'r 370,000 amcangyfrifedig o ofalwyr di-dâl o bob oed yn eu cyflawni.

3. Yn galw ar Lywodraeth Cymru i weithredu polisi Ceidwadwyr Cymru ar grant dyfodol gofalwyr ifanc, a fyddai'n sicrhau bod gofalwyr ifanc yn cael eu cynorthwyo i ymgymryd ag addysg bellach ac uwch amser llawn a chyfleoedd hyfforddi.

4. Yn galw ar Lywodraeth Cymru i gyhoeddi ffigurau yn nodi nifer y gofalwyr y mae eu hanghenion wedi cael eu hasesu ers cyflwyno Deddf Gwasanaethau Cymdeithasol a Llesiant (Cymru) 2014, a faint o'r anghenion hynny a asewyd sydd wedi'u diwallu.

5. Yn galw ar Lywodraeth Cymru i gyflwyno hawl i gael seibiant ar gyfer gofalwyr a'r rheini y maent yn gofalu amdanynt.

Deddf Gwasanaethau Cymdeithasol a Llesiant (Cymru) 2014

 

Cyflwynwyd y gwelliannau a ganlyn:

Gwelliant 1 - Julie James (Gorllewin Abertawe)

Dileu’r cyfan ar ôl pwynt 2 a rhoi yn ei le:

Yn cydnabod bod Deddf Gwasanaethau Cymdeithasol a Llesiant (Cymru) 2014 yn rhoi hawl i ofalwyr gael asesiad o’u hanghenion eu hunain fel gofalwyr ac i anghenion cymwys a aseswyd gael eu diwallu gan awdurdodau lleol.

Yn croesawu blaenoriaethau cenedlaethol Llywodraeth Cymru ar gyfer gofalwyr a ffurfio Grŵp Cynghori’r Gweinidog ar Ofalwyr er mwyn sicrhau bod gweithredu’r Ddeddf Gwasanaethau Cymdeithasol a Llesiant yn gwneud gwahaniaeth gwirioneddol i fywydau gofalwyr yng Nghymru.

 

[Os derbynnir gwelliant 1, caiff gwelliant 2 ei ddad-ddethol]

Gwelliant 2 - Rhun ap Iorwerth (Ynys Môn)

Dileu pwynt 3 a rhoi yn ei le:

Yn credu os caiff y broses o weinyddu lles ei datganoli, y gellir dileu anghysonderau o fewn y system fudd-daliadau sy’n cael gwared ar gymorth i ofalwyr sy'n dymuno ymgymryd ag addysg a hyfforddiant.

Gwelliant 3 - Rhun ap Iorwerth (Ynys Môn)

Ychwanegu pwynt newydd ar ôl pwynt 2 ac ail-rifo yn unol â hynny:

Yn nodi bod y farchnad lafur ar gyfer pobl ifanc, gyda'r twf mewn contractau dim oriau ac interniaethau di-dâl fel rhan o lwybrau gyrfa, yn creu rhwystrau ar gyfer gofalwyr ifanc sydd am fynd ar drywydd cyflogaeth am dâl a gyrfaoedd ochr yn ochr â’u cyfrifoldebau gofalu.

Gwelliant 4 - Caroline Jones (Gorllewin De Cymru)

Ychwanegu pwynt 3 newydd ac ailrifo yn unol â hynny:

Yn cydnabod bod gofalwyr di-dâl o bob oed yn arbed dros £8 biliwn y flwyddyn i'r GIG a gwasanaethau cymdeithasol yng Nghymru, ac eto mae mwyafrif llethol o ofalwyr yn teimlo nad yw eu cyfraniad yn cael ei werthfawrogi na'i ddeall.

Gwelliant 5 - Rhun ap Iorwerth (Ynys Môn)

Ychwanegu pwynt newydd ar ddiwedd y cynnig:

Yn galw ar Lywodraeth Cymru i osod cerrig milltir ar gyfer y grŵp cynghori gofalwyr ifanc a rhoi’r wybodaeth ddiweddaraf i Aelodau'r Cynulliad am ei gynnydd yn rheolaidd. 

Gwelliant 6 - Rhun ap Iorwerth (Ynys Môn)

Ychwanegu pwynt newydd ar ddiwedd y cynnig:

Yn galw ar Lywodraeth Cymru i sicrhau cysondeb ar draws pob rhan o Gymru yn y broses o gyflwyno'r cerdyn i ofalwyr ifanc, a ddylai gynnwys mynediad i drafnidiaeth am bris gostyngol.  

Gwelliant 7 - Rhun ap Iorwerth (Ynys Môn)

Ychwanegu pwynt newydd ar ddiwedd y cynnig:

Yn galw ar Lywodraeth Cymru i egluro faint o’r swm arfaethedig o £3 miliwn ar gyfer gofal seibiant i ofalwyr a gaiff ei ddyrannu i ofalwyr ifanc.

Gwelliant 8 - Rhun ap Iorwerth (Ynys Môn)

Ychwanegu pwynt newydd ar ddiwedd y cynnig:

Yn galw ar Lywodraeth Cymru i sicrhau bod pob fferyllfa yn gweithredu'r canllawiau ar ganiatáu i ofalwyr ifanc gasglu meddyginiaeth bresgripsiwn ar ran y bobl y maent yn gofalu amdanynt.

Gwelliant 9 - Rhun ap Iorwerth (Ynys Môn)

Ychwanegu pwynt newydd ar ddiwedd y cynnig:

Yn galw ar Lywodraeth Cymru i sicrhau bod gofalwyr ifanc yn derbyn hyfforddiant priodol mewn perthynas â gweinyddu meddyginiaeth i’r bobl y maent yn gofalu amdanynt.

 

Math o fusnes: Dadl

Rheswm dros ei ystyried: Busnes y Senedd;

Statws: Wedi’i gwblhau

Cyhoeddwyd gyntaf: 14/06/2021

Angen Penderfyniad: 13 Meh 2018 Yn ôl Y Cyfarfod Llawn - Y Bumed Senedd

Prif Aelod: Paul Davies AS