Ymchwiliad i ofal preswyl i bobl hŷn

Ymchwiliad i ofal preswyl i bobl hŷn

Cynhaliodd y Pwyllgor Iechyd a Gofal Cymdeithasol ymchwiliad i ofal preswyl i bobl hŷn yn 2012/13. Roedd cylch gorchwyl yr ymchwiliad fel a ganlyn:

 

Ymchwilio i’r ddarpariaeth o ofal preswyl yng Nghymru a’r ffyrdd y gall fodloni anghenion presennol pobl hŷn a’u hanghenion ar gyfer y dyfodol, gan gynnwys:

 

  • y broses a ddilynir gan bobl hŷn wrth iddynt fynd i ofal preswyl ac argaeledd a hygyrchedd gwasanaethau amgen yn y gymuned, gan gynnwys gwasanaethau ailalluogi a gofal yn y cartref.
  • gallu’r sector gofal preswyl i fodloni’r gofyn am wasanaethau gan bobl hŷn o ran adnoddau staffio, gan gynnwys y sgiliau sydd gan staff a’r hyfforddiant sydd ar gael iddynt, nifer y lleoedd a’r cyfleusterau, a lefel yr adnoddau.
  • ansawdd gwasanaethau gofal preswyl a phrofiadau defnyddwyr gwasanaethau a’u teuluoedd; effeithiolrwydd gwasanaethau o ran bodloni’r amrywiol anghenion ymhlith pobl hŷn; a rheolaeth ar gau cartrefi gofal.
  • effeithiolrwydd trefniadau rheoleiddio ac archwilio ar gyfer gofal preswyl, gan gynnwys y cwmpas ar gyfer craffu mwy ar hyfywdra ariannol darparwyr gwasanaethau.
  • darpariaeth o fodelau gofal newydd sy’n dod i’r amlwg
  • y cydbwysedd rhwng darpariaeth yn y sector cyhoeddus a’r sector annibynnol, a modelau ariannu, rheoli a pherchnogaeth amgen, fel y rheini a gynigir gan y sector gydweithredol a chydfuddiannol, y trydydd sector,  a landlordiaid cymdeithasol cofrestredig.

 

Seiliwyd y cylch gorchwyl hwn ar broses ymgynghori a gynhaliodd y Pwyllgor yn hydref 2011 ynghylch cwmpas yr ymchwiliad hwn. Penderfynodd y Pwyllgor ganolbwyntio’r ymchwiliad ar ofal preswyl, ond, yn anochel, fe wnaeth trafodion gyffwrdd â materion sy’n ymwneud â gofal nyrsio. Cytunodd y Pwyllgor i ganolbwytio ei sylw y gwasanaethau sydd ar gael i bobl hŷn.

 

Tystiolaeth gan y Dirprwy Weinidog Plant a Gwasanaethau Cymdeithasol

 

Derbyniodd y Pwyllgor tystiolaeth gan y Dirprwy Weinidog Plant a Gwasanaethau Cymdeithasol (PDF, 222KB)

 

Tystiolaeth gan y cyhoedd

 

Cynhaliodd y Pwyllgor ymgynghoriad cyhoeddus i gasglu tystiolaeth am y testun yma.

 

Adroddiad y Pwyllgor

 

Cyflwynodd y Pwyllgor adroddiad (PDF, 1MB) ym mis Rhagfyr 2012. Mae crynodeb o’r adroddiad (PDF, 139KB) ar gael hefyd. Ymatebodd  Llywodraeth Cymru (PDF, 277KB) yn Chwefror 2013.

 

Dadl yn y Cyfarfod Llawn

 

Cynhaliwyd y ddadl yn y Cyfarfod Llawn ar adroddiad y Pwyllgor ar 20 Chwefror 2013.

Math o fusnes: Ymchwiliad Pwyllgor

Statws: Wedi’i gwblhau

Cyhoeddwyd gyntaf: 24/10/2011

Y Broses Ymgynghori

 

Dogfennau

Ymgynghoriadau