NDM6745 Dadl Ceidwadwyr Cymreig - Gweithlu iechyd a gofal cymdeithasol Cymru
NDM6745 Dadl Ceidwadwyr Cymreig - Gweithlu iechyd a gofal cymdeithasol Cymru
NDM6745 Paul
Davies (Preseli Sir Benfro)
Cynnig bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru:
1. Yn cydnabod y cyfraniad hanfodol a wneir gan weithlu iechyd
a gofal cymdeithasol Cymru.
2. Yn credu y bydd gweithlu iach sy'n cael ei
werthfawrogi a'i chefnogi yn allweddol i sbarduno'r gweddnewid sydd ei angen ar
GIG Cymru i fod yn gynaliadwy yn y dyfodol.
3. Yn galw ar Lywodraeth Cymru i gyhoeddi, erbyn mis
Ionawr 2019, strategaeth integredig cynhwysfawr ar gyfer gweithlu iechyd a
gofal cymdeithasol Cymru i sicrhau bod ein gwasanaethau yn gallu mynd i'r afael
â'r galw am wasanaethau diogel o ansawdd uchel yn y dyfodol.
4. Yn galw ar Lywodraeth Cymru i wneud GIG Cymru yn
esiampl fel cyflogwr o ganlyniad i'w gefnogaeth ar gyfer llesiant yn y gweithle
drwy weithredu mynediad â blaenoriaeth at driniaeth ar gyfer gweithwyr y GIG a
datblygu polisïau cadarn sy'n cefnogi iechyd, lles a datblygu proffesiynol parhaus
y gweithlu gofal cymdeithasol a iechyd.
Math o fusnes: Dadl
Rheswm dros ei ystyried: Busnes y Senedd;
Statws: Wedi’i gwblhau
Cyhoeddwyd gyntaf: 14/06/2018
Angen Penderfyniad: 20 Meh 2018 Yn ôl Y Cyfarfod Llawn - Y Bumed Senedd
Prif Aelod: Paul Davies AS