NDM6750 Dadl Plaid Cymru - Ynni Hydrogen
NDM6750 Dadl Plaid Cymru - Ynni Hydrogen
NDM6750 Rhun
ap Iorwerth (Ynys Môn)
Cynnig bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru:
1. Yn nodi’r adroddiad, ‘Potensial hydrogen yn y
datgarboneiddio o drafnidiaeth yng Nghymru’, a gyhoeddwyd gan Simon Thomas AC.
2. Yn nodi bwriad datganedig Llywodraeth Cymru i adeiladu
ar sgiliau ac arbenigedd i arwain y Deyrnas Gyfunol mewn ymchwil a datblygiad a
buddsoddiad yn hydrogen.
3. Yn galw ar Lywodraeth Cymru i drafod gyda busnesau,
ymchwilwyr a chyrff i gynnal digwyddiad allweddol i gyfleu uchelgais Cymru mewn
perthynas â’r economi hydrogen i gynulleidfa fyd-eang ac fel sbardun i
ddatblygu strategaeth economi hydrogen gynhwysfawr.
Potensial
Hydrogen yn y Datgarboneiddio o Drafnidiaeth yng Nghymru
Cyflwynwyd y gwelliannau a ganlyn:
Gwelliant 1 - Paul
Davies (Preseli Sir Benfro)
Ym mhwynt 1, ar ôl 'Simon Thomas AC', mewnosoder:
', ac yn nodi ymhellach:
a) potensial hydrogen fel ffurf amgen o danwydd;
b) pwysigrwydd tanwydd hydrogen i arallgyfeirio ein
portffolio ynni;
c) y gwahaniaeth pwysig rhwng tanwydd hydrogen gwyrdd a
brown;
d) bod tanwydd hydrogen gwyrdd dim ond yn ddichonadwy fel
sgil-gynnyrch o gynhyrchu gormodedd o drydan, ac felly dylid cydnabod ei
gyfyngiadau; ac
e) bod angen i Lywodraeth Cymru wneud gwelliannau i
seilwaith y grid yng Nghymru er mwyn sicrhau y gellir defnyddio trydan a
hydrogen fel dewisiadau gwyrdd amgen yn lle tanwyddau ffosil.'
Gwelliant 2 -
Julie James (Gorllewin Abertawe)
Dileu pwyntiau 2 a 3 a rhoi’r pwyntiau a ganlyn yn eu
lle:
Yn nodi ymrwymiad Llywodraeth Cymru i fynd ati drwy’r
Cynllun Gweithredu newydd ar yr Economi i ddatgarboneiddio modelau busnes
traddodiadol, gwasanaethau cyhoeddus a seilwaith yng Nghymru a symud ymlaen at
ddyfodol carbon isel mewn ffordd a all helpu’n heconomi i arallgyfeirio ac i
dyfu.
Yn nodi gwaith Llywodraeth Cymru i ddatgarboneiddio
rhwydwaith trafnidiaeth Cymru, gan gynnwys yr ymrwymiad diweddar i sicrhau
gostyngiad o 25 y cant mewn allyriadau ar draws rhwydwaith rheilffordd Cymru
a’r Gororau erbyn 2023.
Yn nodi bod yn rhaid i waith i ddatgarboneiddio system
drafnidiaeth Cymru fod yn eang ei sail, a bod angen gwneud gwaith ymchwil a
datblygu creadigol ar atebion eraill o ran seilwaith ac ar draws amrywiaeth o
danwyddau arloesol a systemau tyniant, gan gynnwys hydrogen.
Ffyniant
i Bawb: y cynllun gweithredu ar yr economi
Gwelliant 3 - Caroline
Jones (Gorllewin De Cymru)
Ychwanegu pwynt newydd ar ddiwedd y cynnig:
Yn galw ar Lywodraeth Cymru a Llywodraeth y DU i sicrhau
bod unrhyw fathau o ynni amgen y maent yn archwilio iddynt yn bodloni'r profion
fforddiadwyedd, sy'n cynnwys peidio â gosod gormod o faich ar drethdalwyr.
Math o fusnes: Dadl
Rheswm dros ei ystyried: Busnes y Senedd;
Statws: Wedi’i gwblhau
Cyhoeddwyd gyntaf: 14/06/2021
Angen Penderfyniad: 27 Meh 2018 Yn ôl Y Cyfarfod Llawn - Y Bumed Senedd
Prif Aelod: Rhun ap Iorwerth AS