Trafodaeth o’r cynigion i ddiwygio Deddf Archwilio Cyhoeddus (Cymru) 2013

Trafodaeth o’r cynigion i ddiwygio Deddf Archwilio Cyhoeddus (Cymru) 2013

Wedi'i gwblhau

 

Cyhoeddodd y Pwyllgor ei adroddiad (PDF, 2MB) ym mis Rhagfyr 2019 a chytunodd i ymgynghori ar Fil Archwilio Cyhoeddus (Diwygio) (Cymru) drafft.

 

Cyflwynwyd Deddf Archwilio Cyhoeddus (Cymru) 2013 ym mis Gorffennaf 2012 a daeth yn gyfraith yng Nghymru ar 29 Ebrill 2013. Roedd y Ddeddf yn amcanu i gryfhau a gwella atebolrwydd a threfniadau llywodraethu Archwilydd Cyffredinol Cymru a Swyddfa Archwilio Cymru gan sicrhau annibyniaeth a gwrthrychedd yr Archwilydd Cyffredinol ar yr un pryd.

 

Gwnaeth Pwyllgor Cyllid Cynulliad Cenedlaethol Cymru waith craffu ar ôl deddfu ar y Ddeddf a ganolbwyntiodd ar ddau faes:

 

1.         Ystyried materion a godwyd (PDF, 944KB) gan Archwilydd Cyffredinol Cymru a Swyddfa Archwilio Cymru mewn cysylltiad â Deddf Archwilio Cyhoeddus (Cymru) 2013, gan gynnwys:

  • Codi ffioedd
  • Trefniadau cworwm Bwrdd Swyddfa Archwilio Cymru
  • Trefniadau adrodd Swyddfa Archwilio Cymru
  • Problemau gyda gosod cyfrifon ac adrodd arnynt

2.         Ystyried i ba raddau y gallai agweddau eraill ar Ddeddf Archwilio Cyhoeddus (Cymru) 2013 elwa ar adolygiad.

 

Evidence session

Date, Agenda and Minutes

Transcript

Video

Archwilydd Cyffredinol yr Alban

Caroline Gardner, Archwilydd Cyffredinol yr Alban

Diane McGiffen, Prif Swyddog Gweithredu, Audit Scotland

Dydd Iau 13 Mehefin 2019

Darllenwch y Trawsgrifiad o Sesiwn Dystiolaeth 1

Gwyliwch sesiwn dystiolaeth 1 ar Senedd.tv.

Sefydliad Siartredig Cyllid Cyhoeddus a Chyfrifyddiaeth

Alan Bermingham, Rheolwr Polisi, Llywodraethau, Sefydliad Siartredig Cyllid Cyhoeddus a Chyfrifyddiaeth

Dydd Iau 11 Gorffennaf 2019

Darllenwch y Trawsgrifiad o Sesiwn Dystiolaeth 2

Gwyliwch sesiwn dystiolaeth 2 ar Senedd.tv.

Cyrff a archwilir

Huw Thomas, Cyfarwyddwr Cyllid, Bwrdd Iechyd Prifysgol Hywel Dda

Lynne Hamilton, Cyfarwyddwr Cyllid, Bwrdd Iechyd Prifysgol Bae Abertawe

Jon Rae, Cyfarwyddwr Adnoddau, Cymdeithas Llywodraeth Leol Cymru

Dydd Iau 11 Gorffennaf 2019

Darllenwch y Trawsgrifiad o Sesiwn Dystiolaeth 3

Gwyliwch sesiwn dystiolaeth 3 ar Senedd.tv.

Y Gweinidog Cyllid a'r Trefnydd

Rebecca Evans AC, Y Gweinidog Cyllid a'r Trefnydd, Llywodraeth Cymru

Dydd Iau 11 Gorffennaf 2019

Darllenwch y Trawsgrifiad o Sesiwn Dystiolaeth 4

Gwyliwch sesiwn dystiolaeth 4 ar Senedd.tv.

Archwilydd Cyffredinol Cymru a Swyddfa Archwilio Cymru

Adrian Crompton, Archwilydd Cyffredinol Cymru

Isobel Everett, Cadeirydd Swyddfa Archwilio Cymru

Martin Peters, Pennaeth y Gyfraith a Moeseg, Swyddfa Archwilio Cymru

Steve O’Donoghue, Cyfarwyddwr Cyllid, Swyddfa Archwilio Cymru

Dydd Mercher 17 Gorffennaf 2019

Darllenwch y Trawsgrifiad o Sesiwn Dystiolaeth 5

 

Gwyliwch sesiwn dystiolaeth 5 ar Senedd.tv.

 

 

Math o fusnes: Ymchwiliad Pwyllgor

Rheswm dros ei ystyried: Busnes y Senedd;

Statws: Wedi’i gwblhau

Cyhoeddwyd gyntaf: 26/06/2018

Dogfennau

Ymgynghoriadau