P-05-826 Mae sir Benfro yn dweud NA!! i gau adran damweiniau ac achosion brys Llwynhelyg!

P-05-826 Mae sir Benfro yn dweud NA!! i gau adran damweiniau ac achosion brys Llwynhelyg!

Wedi'i gwblhau

 

P-05-826 Mae sir Benfro yn dweud NA!! i gau adran damweiniau ac achosion brys Llwynhelyg!

 

Cyflwynwyd y ddeiseb hon gan Myles Bamford-Lewis, ar ôl casglu 40,045 o lofnodion.

 

Geiriad y ddeiseb

Rydym ni sydd wedi llofnodi isod yn galw ar Lywodraeth Cymru a Bwrdd Iechyd Hywel Dda i wrthdroi eu penderfyniad i israddio ein hysbyty sirol a chael gwared ar ein hadran damweiniau ac achosion brys.

 

Mae Bwrdd Iechyd Hywel Dda wedi cynnig newidiadau sylweddol i’r ffordd y caiff gwasanaethau eu darparu mewn ysbytai yng ngorllewin Cymru. Maent yn cynnig israddio ysbyty cyffredinol Llwynhelyg yn ein sir ni ac ysbyty cyffredinol Glangwili yn sir Gâr, y ddau i safon ysbytai cymuned, ac adeiladu ysbyty cyffredinol newydd yn ardal Hendy-gwyn ar Daf. Fodd bynnag, mae hyn hefyd yn golygu na fydd gennym bellach adran damweiniau ac achosion brys sy’n gweithredu’n llawn yn ein sir oherwydd y bydd yr adran hon wedi’i disodli gan uned mân anafiadau ar safle Llwynhelyg. O ganlyniad, bydd cleifion y mae angen gofal brys arnynt yn ein sir yn wynebu teithio am hyd at awr, neu efallai hyd yn oed yn fwy os ydynt yn byw yn ardaloedd mwy gwledig ein sir, i gael gofal brys a all achub bywyd mewn ysbyty a fydd y tu allan i’r sir. Byddai’r oedi hwn yn golygu bod bywydau yn sir Benfro mewn perygl, heb ystyried yr oedi ychwanegol wrth orfod aros am ambiwlans i gyrraedd y claf, sefydlogi’r claf, wedyn cludo’r claf i ysbyty sydd y tu hwnt i ffiniau ein sir. Mae hyn yn golygu colli munudau hanfodol mewn sefyllfa lle nad oes amser i’w golli.

 

Mae bod heb adran damweiniau ac achosion brys yn ein sir yn hollol annerbyniol, a’r rheswm am y cynnig yw torri costau ac, yn bwysicach oll, torri corneli. Wel, byddwn ni’n sefyll cornel sir Benfro ac ni fyddwn yn caniatáu iddynt ein torri ni o’r map!

 

Llofnodwch a rhannwch y ddeiseb hon. Ni allwn adael i Lywodraeth Cymru a Bwrdd Iechyd Hywel Dda gymryd ased pennaf ein sir oddi wrthym. Maen nhw eisoes wedi mynd â’r uned gofal arbennig babanod, yr uned famolaeth dan arweiniad meddyg ymgynghorol a’r gwasanaeth gofal pediatrig 24 awr oddi wrthym, gan roi ein babanod, ein plant a’n mamau mewn perygl mawr! Nawr maent yn dod i orffen y gwaith gyda gweddill gwasanaethau ysbyty ein sir. Peidiwch â gadael i hynny ddigwydd!

 

Gyda’n gilydd, byddwn yn anfon neges at Steve Moore a Vaughan Gething y gallant feddwl eto os ydynt yn credu y bydd sir Benfro yn ildio heb frwydro’n ôl wrth iddynt fynd â’n gwasanaethau ysbyty oddi wrthym!

 

Achub adran damweiniau ac achosion brys Llwynhelyg! Achub Ysbyty Llwynhelyg!

 

Statws

Yn ei gyfarfod ar 12/01/2021 penderfynodd y Pwyllgor Deisebau fod y ddeiseb hon wedi'i chwblhau.

 

Nododd y Pwyllgor nad oedd unrhyw ohebiaeth wedi dod i law gan y deisebydd a chytunodd i gau’r ddeiseb yn sgil hynny.

 

Gellir gweld manylion llawn ynghylch trafodaeth y pwyllgor o'r ddeiseb hon a'r dogfennau cysylltiedig ar y tab Cyfarfodydd uchod.

Cafodd ei hystyried gyntaf gan y Pwyllgor Deisebau ar 17/07/2018.

 

Etholaeth a Rhanbarth y Cynulliad

·         Preseli Sir Benfro

·         Canolbarth a Gorllewin Cymru

 

Rhagor o wybodaeth

 

 

 

 

 

 

 

 

Math o fusnes: Deiseb

Cyhoeddwyd gyntaf: 09/07/2018