Rheoliadau a wneir o dan Ddeddf yr UE (Ymadael) 2018 y bydd angen eu sifftio - Y Bumed Senedd

Rheoliadau a wneir o dan Ddeddf yr UE (Ymadael) 2018 y bydd angen eu sifftio - Y Bumed Senedd

Mae Deddf yr Undeb Ewropeaidd (Ymadael) 2018 yn rhoi pwerau  i Weinidogion y DU a Gweinidogion Cymru wneud rheoliadau i ddiwygio deddfwriaeth sylfaenol ac is-ddeddfwriaeth bresennol.

Mae paragraff 4 o Atodlen 7 i Ddeddf 2018 yn darparu ar gyfer pennu pwyllgor yn y Senedd i sifftio rhai rheoliadau y mae Gweinidogion Cymru yn bwriadu eu gwneud o dan y weithdrefn negyddol a elwir yn “rheoliadau negyddol arfaethedig”. Yna bydd y Pwyllgor sifftio yn ystyried y weithdrefn briodol i'w dilyn, naill ai negyddol neu gadarnhaol. Ceir rhagor o wybodaeth am y gwahanol weithdrefnau ar y dudalen Is-ddeddfwriaeth.

Mae manylion y broses sifftio i'w chael yn Atodlen 7 i Ddeddf 2018, fel a ganlyn:

  • rhaid gosod yr holl reoliadau y bwriedir eu gwneud gan Weinidogion Cymru o dan y pwerau yn Rhannau 1 a 2 o Atodlen 2 (ac eithrio'r rhai sydd i'w gwneud ar y cyd â Gweinidogion y DU), ac y mae Gweinidogion Cymru o'r farn y dylid eu gwneud o dan y weithdrefn negyddol, gerbron y Senedd;
  • fewn cyfnod o 14 diwrnod calendr ar ôl gosod, ni chaiff Gweinidogion Cymru wneud y rheoliadau negyddol arfaethedig (h.y. eu gwneud yn gyfraith), oni bai ein bod wedi gwneud argymhelliad ynghylch y weithdrefn briodol ar gyfer y rheoliadau;
  • fewn y 14 diwrnod calendr hynny, caniateir inni ystyried y rheoliadau negyddol arfaethedig ac argymell y dylai'r rheoliadau ddilyn gweithdrefn amgen (megis y weithdrefn gadarnhaol);
    • ar ôl i'r 14 diwrnod calendr fynd heibio (neu yn gynt os byddwn eisoes wedi gwneud argymhelliad), caiff Gweinidogion Cymru fwrw ymlaen â'r rheoliadau negyddol arfaethedig o dan naill ai:
    • y weithdrefn a gaiff ei hargymell gennym, fel y weithdrefn gadarnhaol (h.y. mae'n ofynnol cynnal dadl a phleidlais ar yr offeryn yn y Senedd cyn y caiff ei wneud a'i ddwyn i rym), neu
    • y weithdrefn negyddol (h.y. mae'r offeryn wedi'i wneud a chaiff ei ddwyn i rym, ond caiff ei ddiddymu os bydd y Senedd yn penderfynu ei ddiddymu o fewn 40 diwrnod i’w osod).

Protocol (PDF 187KB) rhwng Llywodraeth Cymru a Phwyllgor Deddfwriaeth, Cyfiawnder a’r Cyfansoddiad Senedd Cymru - Craffu ar reoliadau sy'n deillio o ymadawiad y DU â'r Undeb Ewropeaidd

Math o fusnes: Arall

Cyhoeddwyd gyntaf: 20/07/2018

Dogfennau