Prynu Gorfodol

Prynu Gorfodol

Mae Pwyllgor yr Economi, Seilwaith a Sgiliau wedi cytuno i gynnal ymchwiliad byr i brynu gorfodol.

Crynodeb

Bydd yr ymchwiliad yn canolbwyntio ar ddefnyddio pwerau prynu gorfodol mewn dau faes penodol:

  • adfywio canol trefi; a
  • datblygu cyfleoedd ar gyfer teithio llesol.

Cylch gorchwyl

  • A oes unrhyw rwystrau rhag defnyddio pwerau prynu gorfodol? Os felly, sut ellir eu goresgyn?
  • A oes unrhyw rwystrau penodol i'r defnydd o bryniant gorfodol i:
    • adfywio canol trefi; a / neu
    • ddatblygu cyfleoedd ar gyfer teithio llesol?
  • A oes gan awdurdodau lleol ddigon o adnoddau a'r sgiliau cywir er mwyn defnyddio'u pwerau prynu gorfodol yn effeithiol?
  • Beth yw eich barn ynglŷn â chynigion Llywodraeth Cymru ar gyfer symleiddio'r broses Gorchymyn Prynu Gorfodol, fel y nodir yn ei ymgynghoriad ar ganiatâd seilwaith?

Math o fusnes: Ymchwiliad Pwyllgor

Rheswm dros ei ystyried: Busnes y Senedd;

Statws: Wedi’i gwblhau

Cyhoeddwyd gyntaf: 16/08/2018

Dogfennau

Ymgynghoriadau