Prynu Gorfodol
Prynu Gorfodol
Mae Pwyllgor yr
Economi, Seilwaith a Sgiliau wedi cytuno i gynnal ymchwiliad byr i brynu
gorfodol.
Crynodeb
Bydd yr ymchwiliad yn canolbwyntio ar ddefnyddio pwerau
prynu gorfodol mewn dau faes penodol:
- adfywio canol trefi; a
- datblygu cyfleoedd ar gyfer teithio llesol.
Cylch
gorchwyl
- A oes unrhyw rwystrau
rhag defnyddio pwerau prynu gorfodol? Os felly, sut ellir eu goresgyn?
- A oes unrhyw
rwystrau penodol i'r defnydd o bryniant gorfodol i:
- adfywio canol trefi; a / neu
- ddatblygu cyfleoedd ar gyfer teithio llesol?
- A oes gan
awdurdodau lleol ddigon o adnoddau a'r sgiliau cywir er mwyn defnyddio'u
pwerau prynu gorfodol yn effeithiol?
- Beth yw eich barn
ynglŷn â chynigion
Llywodraeth Cymru ar gyfer symleiddio'r broses Gorchymyn Prynu Gorfodol,
fel y nodir yn ei ymgynghoriad
ar ganiatâd seilwaith?
Math o fusnes: Ymchwiliad Pwyllgor
Rheswm dros ei ystyried: Busnes y Senedd;
Statws: Wedi’i gwblhau
Cyhoeddwyd gyntaf: 16/08/2018
Dogfennau
Ymgynghoriadau
- Prynu Gorfodol (Wedi ei gyflawni)