Ymchwiliad byr i oblygiadau ymadael â’r Undeb Ewropeaidd i feysydd o fewn cylch gwaith y Pwyllgor Diwylliant, y Gymraeg a Chyfathrebu

Ymchwiliad byr i oblygiadau ymadael â’r Undeb Ewropeaidd i feysydd o fewn cylch gwaith y Pwyllgor Diwylliant, y Gymraeg a Chyfathrebu

 

Inquiry5

 

Ym mis Hydref 2018 cynhaliodd y Pwyllgor Diwylliant, y Gymraeg a Chyfathrebu ymchwiliad i oblygiadau ymadael â’r Undeb Ewropeaidd i feysydd o fewn cylch gwaith y Pwyllgor. Roedd yr ymchwiliad yn edrych ar sut y gall ymadawiad y DU â’r UE effeithio ar ddiwylliant; y celfyddydau; yr amgylchedd hanesyddol; y Gymraeg; cyfathrebu; darlledu a’r cyfryngau; a’r diwydiannau creadigol yng Nghymru.

Gofynnodd y Pwyllgor i bobl ysgrifennu atynt gyda’u sylwadau ar y materion a ganlyn:

 

- Effeithiau posibl ymadael â’r Undeb Ewropeaidd ar y meysydd sydd o fewn cymhwysedd Senedd Cymru ac o fewn cylch gwaith y Pwyllgor.

- Effeithiau posibl ymadael â’r Undeb Ewropeaidd ar y meysydd sy’n arbennig o berthnasol i Gymru.

- Parodrwydd Llywodraeth Cymru ar gyfer ymadael â’r Undeb Ewropeaidd yn y meysydd hyn.

Adroddiad  

Cyhoeddodd y Pwyllgor adroddiad byr ar ei ganfyddiadau ym mis Rhagfyr 2018.

Gwnaeth Cadeirydd y Pwyllgor ddatganiad yn y Cyfarfod Llawn ar yr adroddiad ym mis Mawrth 2019.

Ymateb i’r adroddiad

Ymatebodd Llywodraeth Cymru i’r adroddiad ym mis Ionawr 2019.

 

Math o fusnes: Ymchwiliad Pwyllgor

Rheswm dros ei ystyried: Busnes y Senedd;

Statws: Ymchwiliad yn mynd rhagddo

Cyhoeddwyd gyntaf: 12/09/2018

Dogfennau