Ymchwiliad byr i oblygiadau ymadael â’r Undeb Ewropeaidd i feysydd o fewn cylch gwaith y Pwyllgor Diwylliant, y Gymraeg a Chyfathrebu
Ymchwiliad byr i oblygiadau ymadael â’r Undeb Ewropeaidd i feysydd o fewn cylch gwaith y Pwyllgor Diwylliant, y Gymraeg a Chyfathrebu
Inquiry5
Ym mis Hydref 2018
cynhaliodd y Pwyllgor Diwylliant, y Gymraeg a Chyfathrebu ymchwiliad i oblygiadau
ymadael â’r Undeb Ewropeaidd i feysydd o fewn cylch gwaith y Pwyllgor. Roedd yr
ymchwiliad yn edrych ar sut y gall ymadawiad y DU â’r UE effeithio ar
ddiwylliant; y celfyddydau; yr amgylchedd hanesyddol; y Gymraeg; cyfathrebu;
darlledu a’r cyfryngau; a’r diwydiannau creadigol yng Nghymru.
Gofynnodd y Pwyllgor
i bobl ysgrifennu atynt gyda’u sylwadau ar y materion a ganlyn:
- Effeithiau posibl ymadael â’r Undeb Ewropeaidd ar y
meysydd sydd o fewn cymhwysedd Senedd Cymru ac o fewn cylch gwaith y Pwyllgor.
- Effeithiau posibl ymadael â’r Undeb Ewropeaidd ar y
meysydd sy’n arbennig o berthnasol i Gymru.
- Parodrwydd Llywodraeth Cymru ar gyfer ymadael â’r Undeb
Ewropeaidd yn y meysydd hyn.
Adroddiad
Cyhoeddodd y Pwyllgor adroddiad byr ar ei ganfyddiadau ym mis Rhagfyr 2018.
Gwnaeth Cadeirydd y Pwyllgor ddatganiad yn y Cyfarfod Llawn ar yr adroddiad ym mis Mawrth 2019.
Ymateb i’r adroddiad
Ymatebodd Llywodraeth Cymru i’r adroddiad ym mis Ionawr 2019.
Math o fusnes: Ymchwiliad Pwyllgor
Rheswm dros ei ystyried: Busnes y Senedd;
Statws: Ymchwiliad yn mynd rhagddo
Cyhoeddwyd gyntaf: 12/09/2018
Dogfennau