Gwefru cerbydau trydan yng Nghymru
Gwefru cerbydau trydan yng Nghymru
Mae Pwyllgor yr Economi,
Seilwaith a Sgiliau wedi cytuno i gynnal ymchwiliad byr i gwefru cerbydau
trydan yng Nghymru.
Crynodeb
Bydd yr ymchwiliad
yn canolbwyntio ar y ffaith bod mwy a mwy o bobl yng Nghymru yn newid i
gerbydau trydan a hybrid.
Cylch gorchwyl
- Deall y seilwaith gwefru presennol yng
Nghymru, ac i ba raddau y mae'n addas at y diben;
- Sut y mae angen datblygu'r seilwaith i
gefnogi cynnydd mewn cerbydau trydan ar ein ffyrdd. Sut y gall Llywodraeth
Cymru, y sector preifat a'r trydydd sector gydweithio i ddatblygu’r
seilwaith gwefru cerbydau trydan;
- A yw'r grid trydan yng Nghymru yn gallu
ymdopi â chynnydd sylweddol yn y seilwaith cerbydau trydan, yn enwedig
mewn ardaloedd gwledig;
- Archwilio’r posibilrwydd i gerbydau trydan
hyrwyddo newid ymddygiad, er enghraifft, o ran perchnogaeth cerbydau a
mentrau rhannu ceir;
- I ba raddau y mae Llywodraeth Cymru wedi
gweithredu ar yr argymhellion yn yr adroddiad cerbydau carbon isel; ac
- Enghreifftiau o arfer da o Gymru a thu hwnt.
Math o fusnes: Ymchwiliad Pwyllgor
Rheswm dros ei ystyried: Busnes y Senedd;
Statws: Wedi’i gwblhau
Cyhoeddwyd gyntaf: 21/09/2018
Dogfennau
- Adroddiad y Pwyllgor: Gwefru cerbydau trydan yng Nghymru - Hydref 2019 PDF 1 MB
- Ymateb Llywodraeth Cymru PDF 381 KB
Ymgynghoriadau
- Gwefru cerbydau trydan yng Nghymru (Wedi ei gyflawni)