P-05-834 Dylai Pob Ysgol Fod yn Ysgol Cyfrwng Cymraeg ac Addysgu Hanes Cymru

P-05-834 Dylai Pob Ysgol Fod yn Ysgol Cyfrwng Cymraeg ac Addysgu Hanes Cymru

Wedi'i gwblhau

P-05-834 Dylai Pob Ysgol Fod yn Ysgol Cyfrwng Cymraeg ac Addysgu Hanes Cymru

Cyflwynwyd y ddeiseb hon gan Ashley Davies, ar ôl casglu 75 o lofnodion.

Geiriad y ddeiseb

​​​Rydym ni sydd wedi llofnodi isod yn deisebu'r Cynulliad Cenedlaethol a'r Gweinidog Addysg i bob ysgol yng Nghymru fod yn ysgol cyfrwng Cymraeg er mwyn gwarchod iaith ein cyndadau. Gofynnwn hefyd i bob ysgol yng Nghymru addysgu hanes Cymru a hanes y bobl a gynorthwyodd i lunio'r wlad hon.

 

Gwybodaeth Ychwanegol

Mae'n warth nad yw'r rhan fwyaf o bobl yng Nghymru yn gallu siarad Cymraeg. Yn waeth fyth, mae ein hanes yn cael ei golli. Dim ond mewn ysgolion yn y Gogledd a'r Gorllewin, lle mae'r mwyafrif yn siarad Cymraeg, y caiff ein hanes ei warchod, hanes sydd wedi'i ysgrifennu yn yr iaith. Er mwyn diogelu'r rhain, rhaid inni wneud yn siŵr bod ein plant yn eu dysgu a bod yr iaith yn cael ei defnyddio bob dydd.

 

A picture containing room, scene

Description generated with high confidence

 

Statws

Yn ei gyfarfod ar 11/06/2019 penderfynodd y Pwyllgor Deisebau fod y ddeiseb hon wedi'i chwblhau.

Trafododd y Pwyllgor ohebiaeth bellach gan y deisebydd a chytunodd i gau'r ddeiseb yng ngoleuni ymchwiliad y Pwyllgor Diwylliant, y Gymraeg a Chyfathrebu i Addysgu Hanes a Diwylliant Cymru, ac i roi rhagor o wybodaeth i'r deisebydd o ran sut y gall gyfrannu at hyn.

Gellir gweld manylion llawn ynghylch trafodaeth y pwyllgor o'r ddeiseb hon a'r dogfennau cysylltiedig ar y tab Cyfarfodydd uchod.

Cafodd ei hystyried gyntaf gan y Pwyllgor Deisebau ar 09/10/2018.

 

 

 

Etholaeth a Rhanbarth y Cynulliad

·         Mynwy

·         Dwyrain De Cymru

 

Rhagor o wybodaeth

 

 

Math o fusnes: Deiseb

Rheswm dros ei ystyried: Busnes y Senedd;

Statws: Wedi’i gwblhau

Cyhoeddwyd gyntaf: 28/09/2018