P-05-838 Cefnogwch y Llwybr Du o ran Ffordd Liniaru’r M4

P-05-838 Cefnogwch y Llwybr Du o ran Ffordd Liniaru’r M4

Wedi'i gwblhau

P-05-838 Cefnogwch y Llwybr Du o ran Ffordd Liniaru’r M4

Cyflwynwyd y ddeiseb hon gan South Wales Chamber of Commerce, ar ôl casglu 1,482 o lofnodion.

Geiriad y ddeiseb

​​​​Rydym yn galw ar Lywodraeth Cymru i barhau â’i chynlluniau i adeiladu Ffordd Liniaru’r M4 ar hyd y Llwybr Du arfaethedig, ac yn dilyn y cyhoeddiad y bydd Llywodraeth Cymru yn cyflwyno dadl ar gynlluniau’r M4 yn ddiweddarach eleni, rydym yn galw ar y Cynulliad Cenedlaethol i gefnogi’r prosiect.

Mae angen di-os am draffordd newydd o amgylch Casnewydd, gyda’r tagfeydd o gwmpas Twneli Brynglas yn cael effaith negyddol ar fusnesau ac ar bobl o bob rhan o dde Cymru. Cyhoeddwyd y bwriad cyntaf i gael ffordd liniaru ym 1991, sef bron i 30 mlynedd yn ôl. Er nad yw’r methiant i weithredu am dros dri degawd yn unig ar fai, credwn nad yw hyn wedi bod o gymorth i les economaidd y genhedlaeth bresennol, ac mae wedi cyfrannu at:

  • Fod y gyfradd gyflogaeth yng Nghymru dros 3 y cant yn is ar gyfartaledd na chyfradd gyflogaeth y DU ers canol y 1990au.
  • Fod y Gwerth Ychwanegol Crynswth y pen yn gyson yn is na 75 y cant o gyfartaledd yn y DU ers diwedd y 1990au, gyda’r ffigurau diweddaraf yn dangos mai Gwerth Ychwanegol Crynswth Caerdydd y pen yw’r isaf o blith pedair prifddinas y DU.

 

Gwybodaeth Ychwanegol

 

Canfu dadansoddiad Llywodraeth Cymru ers mis Mawrth 2016 y byddai ffordd M4 newydd yn ardal Casnewydd yn gwella cysylltedd yn Ne Cymru ac â gweddill y DU, a fydd yn:

  • Lleihau amseroedd teithio, gan ddod â manteision penodol i gwmnïau logisteg a ‘gweithrediadau ond mewn pryd’, sydd ar hyn o bryd yn wynebu tarfu rheolaidd a chostau cysylltiedig.
  • Arbed costau cludiant yr amcangyfrifir eu bod yn £34 miliwn y flwyddyn i fusnesau de Cymru.
  • Cynyddu mynediad at gyflogaeth i drigolion ac yn ehangu maint y gweithlu hygyrch i fusnesau.
  • Cynyddu Gwerth Ychwanegol Crynswth de Cymru o £39 miliwn y flwyddyn drwy’r cynnydd o ran cynhyrchiant.
  • Creu mynediad at safleoedd cyflogaeth newydd yn ardal Casnewydd, gyda photensial ar gyfer 15,000 o swyddi, a gwella mynediad at safleoedd sy’n gyfagos i’r M4 presennol, a gaiff ei rwystro yn sgîl tagfeydd traffig rheolaidd.
  • Gwella’r canfyddiad o Gymru ar gyfer ymwelwyr, ac fel lleoliad ar gyfer buddsoddi.

 

Newidiwch y sefyllfa fel y bu ers 30 mlynedd, a chefnogwch gynigion y llywodraeth o ran y Llwybr Du ar gyfer Ffordd Liniaru’r M4, fel y gallwn wella llesiant economaidd cenedlaethau’r dyfodol ar draws De Cymru.

 

Tystiolaeth

http://www.bbc.co.uk/news/uk-wales-politics-43059755
https://statscymru.llyw.cymru/v/C8Ns
https://statscymru.llyw.cymru/v/C8Nt
https://www.ons.gov.uk/economy/grossvalueaddedgva/bulletins/regionalgrossvalueaddedbalanceduk/1998to2016#wales-was-the-fastest-growing-country-in-the-uk-in-2016
https://beta.llyw.cymru/coridor-yr-m4-o-amgylch-casnewydd-adroddiad-diwygiedig-yr-asesiad-or-effaith-economaidd-ehangach

 

Statws

Yn ei gyfarfod ar 11/06/2019 penderfynodd y Pwyllgor Deisebau fod y ddeiseb hon wedi'i chwblhau.

Trafododd y Pwyllgor y ddeiseb ochr yn ochr â P-05-850 Amddiffyn Gwastatir Gwent ac atal traffordd arfaethedig yr M4. Yng ngoleuni'r penderfyniad a gyhoeddwyd gan y Prif Weinidog ar 4 Mehefin, a'r gwaith craffu cynhwysfawr a wnaed mewn perthynas â’r mater hwn gan yr Ymchwiliad Cyhoeddus, daeth y Pwyllgor i'r casgliad nad oedd unrhyw gamau pellach y gallai eu cymryd yn realistig, a chytunodd i gau'r ddeiseb.

Gellir gweld manylion llawn ynghylch trafodaeth y pwyllgor o'r ddeiseb hon a'r dogfennau cysylltiedig ar y tab Cyfarfodydd uchod.

Cafodd ei hystyried gyntaf gan y Pwyllgor Deisebau ar 09/10/2018.

 

 

Etholaeth a Rhanbarth y Cynulliad

·         Gorllewin Casnewydd

·         Dwyrain De Cymru

 

Rhagor o wybodaeth

Math o fusnes: Deiseb

Rheswm dros ei ystyried: Busnes y Senedd;

Statws: Wedi’i gwblhau

Cyhoeddwyd gyntaf: 01/10/2018