Dadl ar NNDM6813 - Gwaredu deunyddiau a garthwyd o Fôr Hafren
Dadl ar NNDM6813 - Gwaredu deunyddiau a garthwyd o Fôr Hafren
Darren
Millar (Gorllewin Clwyd)
Cynnig bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru:
1. Yn nodi pryderon eang ymhlith y cyhoedd mewn perthynas
â gwaredu deunyddiau a garthwyd o Fôr Hafren i leoliadau oddi ar arfordir de
Cymru, sy'n gysylltiedig ag adeiladu gorsaf bŵer newydd yn Hinkley.
2. Yn galw ar Lywodraeth Cymru i:
a) cyhoeddi tystiolaeth fwy manwl mewn ymateb i bryderon
ynglŷn â risgiau i iechyd y cyhoedd a'r amgylchedd, gan gynnwys caniatáu
ar gyfer cynnal profion pellach er mwyn darparu mwy o dryloywder; a
b) cyfarwyddo Cyfoeth Naturiol Cymru i atal y drwydded
forol sy'n galluogi gweithgarwch gwaredu ac ymgymryd â rhaglen eang o
ymgysylltu ac ymgynghori â chymunedau lleol a rhanddeiliaid ar draws de Cymru.
Cyflwynwyd y gwelliannau a ganlyn:
Gwelliant 1 - Julie
James (Gorllewin Abertawe)
Dileu popeth ar ôl pwynt 1 a rhoi yn ei le:
2. Yn nodi:
a) o dan delerau’r Confensiwn ar Atal Llygredd Morol yn
sgil Dympio Gwastraff a Deunyddiau Eraill (Confensiwn Llundain, 1972), y mae’r
DU yn un o’r llofnodwyr, dim ond deunyddiau sydd â lefelau de minimis o
ymbelydredd a all gael eu hystyried ar gyfer cael eu gwaredu ar y môr.
b) yr asesiad ymbelydrol generig ceidwadol, a ddatblygwyd
gan yr Asiantaeth Ynni Atomig Rhyngwladol, yw’r dull rhyngwladol cymeradwy ar
gyfer profi am lefelau de minimis o ymbelydredd a chafodd y dull hwn ei
ddefnyddio wrth wneud penderfyniad ynghylch trwydded forol Hinkley.
c) y dystiolaeth o fewn adroddiad Pwyllgor Deisebau’r
Cynulliad Cenedlaethol a nododd fod Cyfoeth Naturiol Cymru wedi gwneud ei
benderfyniad ynghylch trwydded forol ar sail cyngor arbenigol, a hynny’n unol â
gweithdrefnau’r Asiantaeth Ynni Atomig Rhyngwladol ar gyfer asesiadau
ymbelydrol.
d) y ffaith y daeth yr holl brofion ac asesiadau i’r
casgliad fod y gwaddod i’w waredu o fewn y terfynau diogel, nad oes unrhyw
berygl ymbelydrol i iechyd pobl nac i’r amgylchedd a’i fod yn ddeunydd diogel
ac addas i’w waredu ar y môr.
3. Yn galw ar Lywodraeth Cymru i roi cyfarwyddyd i
Cyfoeth Naturiol Cymru o safbwynt ymgysylltu rhagor â’r cyhoedd er mwyn
egluro’r broses a’r dystiolaeth, gan dawelu ofnau’r cyhoedd.
Confensiwn
ar Atal Llygredd Morol yn sgil Dympio Gwastraff a Deunyddiau Eraill (Confensiwn
Llundain, 1972) (Saesneg yn unig)
[Os derbynnir gwelliant 1, caiff gwelliant 2 ei
ddad-ddethol]
Gwelliant 2 - Neil
McEvoy (Canol De Cymru)
Ym mhwynt 2, ychwanegu is-bwyntiau newydd:
cymryd i ystyriaeth y wybodaeth a ddarparwyd gan yr Athro
Emeritws Keith Barnham ynghylch damweiniau pwll oeri yn Hinkley Point A yn y
1960au;
cyfarwyddo Cyfoeth Naturiol Cymru i gynnal asesiad llawn
o'r effaith amgylcheddol y caiff dympio gwaddod o Hinkley yn Cardiff Grounds ar
arfordir Cymru, y boblogaeth arfordirol ac amgylchedd morol Cymru.
Yr Athro Keith Barnham, 'New evidence of the need to test
Hinkley Point sediments for Uranium and Plutonium' - gosodwyd copi yn Llyfrgell
yr Aelodau
Math o fusnes: Dadl
Rheswm dros ei ystyried: Busnes y Senedd;
Statws: Wedi’i gwblhau
Cyhoeddwyd gyntaf: 10/06/2021
Angen Penderfyniad: 10 Hyd 2018 Yn ôl Y Cyfarfod Llawn - Y Bumed Senedd
Prif Aelod: Rhun ap Iorwerth AS, Darren Millar AS