P-05-839 Dylid troi canllawiau Sefydliad Iechyd y Byd ynghylch llygredd aer yn gyfraith yng Nghymru a chyflwyno Deddf Aer Glân newydd i Gymru
P-05-839 Dylid troi canllawiau Sefydliad Iechyd y Byd ynghylch llygredd aer yn gyfraith yng Nghymru a chyflwyno Deddf Aer Glân newydd i Gymru
P-05-839 Dylid troi canllawiau Sefydliad Iechyd y Byd ynghylch llygredd aer
yn gyfraith yng Nghymru a chyflwyno Deddf Aer Glân newydd i Gymru
Cyflwynwyd y ddeiseb hon gan British Heart
Foundation Cymru, ar ôl casglu 688 o
lofnodion.
Geiriad y ddeiseb
Rydym yn
galw ar i Gynulliad Cenedlaethol Cymru annog Llywodraeth Cymru i droi
canllawiau Sefydliad Iechyd y Byd (WHO) ynghylch llygredd aer yn gyfraith yng
Nghymru, a chyflwyno Deddf Aer Glân newydd i Gymru.
Nid yw'r terfynau cyfreithiol presennol ar gyfer ansawdd aer yng Nghymru yn
diogelu iechyd. Mae terfynau'r UE, a ddefnyddir gan Lywodraeth y DU a chan
Lywodraeth Cymru, yr un fath â'r terfynau canllaw uchaf a argymhellir gan y WHO
ar gyfer nitrogen deuocsid (NO2), ond maent yn llai llym na throthwy'r WHO ar
gyfer llygryddion eraill sy'n niweidiol i iechyd megis deunydd gronynnol mân
(PM2.5).
Mae Sefydliad
Prydeinig y Galon Cymru yn galw ar i Lywodraeth Cymru droi canllawiau'r WHO yn
gyfraith yng Nghymru, a hynny drwy gyflwyno Deddf Aer Glân newydd i Gymru a
fyddai'n mynd i'r afael â phrif ffynonellau llygredd aer a sicrhau bod pawb,
o'r Llywodraeth a llywodraeth leol i fusnesau a'r cyhoedd, yn cydweithio i fynd
i'r afael â'r argyfwng iechyd brys hwn.
Gwybodaeth Ychwanegol
Ymchwil a ariannwyd gan
Sefydliad Prydeinig y Galon oedd yr ymchwil gyntaf i brofi bod dod i gysylltiad
ag aer o ansawdd gwael yn y tymor byr a'r tymor hir yn gallu achosi problemau
cardiofasgwlaidd difrifol a'u gwneud yn waeth. Cadarnhaodd ein hymchwil fod
cysylltiad clir rhwng clefyd cardiofasgwlaidd a dod i gysylltiad â gronynnau
tra mân PM2.5, a bod anadlu gronynnau mân yn gallu cynyddu'r risg i grwpiau
bregus o gael trawiad ar y galon neu strôc o fewn 24 awr.
Amcangyfrifodd Iechyd Cyhoeddus Cymru fod llygredd aer ym 2017 yn cyfrannu at
2,000 o farwolaethau cynnar yng Nghymru. Gorchmynnwyd i Lywodraeth Cymru fynd
i'r afael â lefelau anghyfreithlon o nitrogen deuocsid, ond nid oes eto gynllun
i fynd i'r afael â deunydd gronynnol, ac ychydig iawn o fanylion sydd ynghylch
sut y bydd y Llywodraeth yn gwella'r gwaith monitro llygryddion ledled Cymru.
Byddai Deddf Aer Glân newydd i Gymru yn:
- Sicrhau bod
cyfraith Cymru yn defnyddio canllawiau'r WHO ar gyfer llygredd aer;
- Cyflwyno ffioedd
Barthau Aer Glân mewn ardaloedd sy'n torri neu sy'n agos at y terfynau ar
gyfer nitrogen deuocsid a deunydd gronynnol, a neilltuo'r arian ar gyfer
gwella ansawdd yr aer ymhellach;
- Sicrhau bod
seilwaith a thechnoleg ar waith fel y gallai mwy o bobl ddefnyddio
Cerbydau Allyriadau Tra Isel a thrafnidiaeth gyhoeddus;
- Buddsoddi mewn
gwell monitro llygredd ledled Cymru, a sicrhau bod gwybodaeth am y risgiau
i iechyd ar gael i grwpiau bregus;
- Codi ymwybyddiaeth
y cyhoedd o effaith llosgi coed yn y cartref ac o'r camau y gellir eu
cymryd i'w lleihau.
Statws
Yn ei gyfarfod ar 25/02/2020
penderfynodd y Pwyllgor Deisebau fod y ddeiseb hon wedi'i chwblhau.
Trafododd y Pwyllgor yr
ohebiaeth bellach a chytunodd i gau’r ddeiseb gan fod Llywodraeth Cymru wrthi’n
ymgynghori ar Gynllun Aer Glân ar hyn o bryd ac yn bwriadu cyhoeddi Papur Gwyn
ar Ddeddf Aer Glân cyn diwedd y tymor Cynulliad hwn. Yn sgil y cyfyngiadau
ymarferol ar basio deddfwriaeth cyn etholiad 2021, a’r ymrwymiadau a wnaed gan
y Gweinidog, daeth yr Aelodau i’r casgliad nad oes llawer mwy y gall y Pwyllgor
Deisebau ei gyflawni ar yr adeg hon. Roedd y Pwyllgor am ddiolch i’r deisebwyr
am eu hymgysylltiad a dymuno’n dda iddynt ar gyfer y dyfodol.
Gellir gweld manylion
llawn ynghylch trafodaeth y pwyllgor o'r ddeiseb hon a'r dogfennau cysylltiedig
ar y tab Cyfarfodydd uchod.
Cafodd ei hystyried
gyntaf gan y Pwyllgor Deisebau ar 13/11/2018.
Etholaeth
a Rhanbarth y Cynulliad
·
Canol Caerdydd
·
Canol De Cymru
Rhagor o wybodaeth
- Dysgwch fwy am broses ddeisebau'r
Cynulliad
- Llofnodwch e-ddeiseb
- Sut mae proses Ddeisebu yn gweithio
Math o fusnes: Deiseb
Rheswm dros ei ystyried: Busnes y Senedd;
Statws: Wedi’i gwblhau
Cyhoeddwyd gyntaf: 11/10/2018