P-05-840 Cyllid Teg i Gyngor Bwrdeistref Sirol Castell-nedd Port Talbot (CBSCNPT) a phob Awdurdod Lleol arall
P-05-840 Cyllid Teg i Gyngor Bwrdeistref Sirol Castell-nedd Port Talbot (CBSCNPT) a phob Awdurdod Lleol arall
P-05-840 Cyllid Teg i Gyngor Bwrdeistref Sirol Castell-nedd Port Talbot
(CBSCNPT) a phob Awdurdod Lleol arall
Cyflwynwyd y ddeiseb hon gan Unison, ar ôl
casglu 225 o lofnodion.
Geiriad y ddeiseb
Mae angen
i Lywodraeth Cymru fynd drwy ei chyllidebau fesul llinell a chael gwared ar
wariant gwastraffus er mwyn sicrhau ei bod yn diogelu gwasanaethau cyhoeddus
ledled Cymru. Rydym yn defnyddio Castell-nedd Port Talbot fel enghraifft drwy
gydol y ddeiseb hon, am ein bod yn byw yno ac yn gweithio i CBSCNPT, ond gan
ddeall bod pob awdurdod unedol yng Nghymru dan bwysau ariannol eithafol.
Rydym yn cytuno
bod gan bob awdurdod rôl wrth gael gwared ar wariant gwastraffus, ond wrth
ystyried darpariaeth gwasanaeth nawr, yr unig gwestiwn ym mhob awdurdod yw
"A yw'n ddigon da?" yn hytrach nag "A yw'n arfer gorau?";
ond mae Cyngor Castell-nedd Port Talbot wedi cael gwared ar unrhyw wariant
gwastraffus ac, erbyn hyn, mae yn y sefyllfa lle mae angen iddo ystyried cau
gwasanaethau anstatudol megis parciau a gwasanaethau hamdden, mewn
gwrthwynebiad uniongyrchol i ddeddfwriaeth Llywodraeth Cymru, fel Deddf
Llesiant Cenedlaethau'r Dyfodol a'r Ddeddf Gwasanaethau Cymdeithasol. Dim ond
yr esgyrn sydd ar ôl erbyn hyn.
Erbyn hyn, mae
angen i Lywodraeth Cymru wario'n glyfrach, nid gwario llai. Heb wariant clyfar
gan Lywodraeth Cymru, bydd gwasanaethau allweddol ein cymuned yn cael eu cwtogi
neu eu colli. Bydd rhagor o doriadau cyllidebol yn dinistrio swyddi,
gwasanaethau a chymunedau lleol. Mae Cyngor Bwrdeistref Sirol Castell-nedd Port
Talbot yn gyflogwr pwysig a bydd rhagor o ostyngiad mewn cyllid yn cael effaith
enfawr ar yr economi leol fel ym mhob Awdurdod Lleol yng Nghymru.
Gwybodaeth Ychwanegol
Mae Cyngor Bwrdeistref Sirol
Castell-nedd Port Talbot yn un o'r cynghorau mwyaf difreintiedig yng Nghymru ac
mae angen cyllid ychwanegol arno i gynnal y gwasanaethau a ddarperir i'r rhai
mwyaf agored i niwed yn y Fwrdeistref. Cyngor Bwrdeistref Sirol Castell-nedd
Port Talbot yw'r prif gyflogwr yn yr ardal a bydd unrhyw ostyngiad mewn cyllid
yn cael effaith andwyol ar gyflogaeth a'r gallu i'r gwasanaethau hanfodol hyn
fod yn gynaliadwy ac aros yn fewnol. Bydd toriadau cyllidebol yn arwain at fwy
o amddifadedd yn ein cymunedau a cholli swyddi'n orfodol gyda gwasanaethau'n
diflannu am byth.
Mae diffyg cyllid i Gyngor
Bwrdeistref Sirol Castell-nedd Port Talbot yn arwain at ddarpariaeth gwasanaeth
sy'n aflonyddgar, yn gostus ac o ansawdd gwael; colli cyfleoedd cyflogaeth,
telerau ac amodau cyflogeion ac, yn bwysicaf oll, golli atebolrwydd democrataidd
os caiff gwasanaethau eu colli i'r sector preifat neu'r trydydd sector a
disbyddu cyllidebau wrth gefn. Rydym yn cytuno â gweledigaeth Llywodraeth Cymru
y dylai pawb yng Nghymru fyw mewn cymunedau llewyrchus, llawn addewid a
chynaliadwy sydd â chysylltiadau da, gydag economi leol gref ac ansawdd bywyd
da. Er mwyn i'r weledigaeth hon lwyddo, rhaid i ni ddiogelu gwasanaethau
cyhoeddus a fydd yn sicrhau diogelwch a llesiant ein preswylwyr ledled Cymru
gyda chanlyniadau gwell i bawb.
Mae dyrannu cyllid yn
ddoethach yn hanfodol er mwyn sicrhau model gofal cymdeithasol llewyrchus ac
integreiddiol sy'n addas ar gyfer yr unfed ganrif ar hugain. Mae angen
dyfarnu cyllid trawsnewidiol i Awdurdodau Lleol yng Nghymru er mwyn sicrhau nad
oedi wrth drosglwyddo gofal o ddarpariaethau ysbyty yw'r canlyniad i breswylwyr
sy'n agored i niwed ac yn aml yn fregus. Rhaid i Lywodraeth Cymru ddod
i'r penderfyniad na ddylai awdurdodau unedol fod y berthynas dlawd wrth
ddyrannu pwrs y wlad ac ni ddylid disgwyl iddynt roi deddfwriaeth ddrud ar
waith heb i'r cyllid priodol gael ei ddyfarnu.
Statws
Yn ei gyfarfod ar 12/02/2019
penderfynodd y Pwyllgor
Deisebau fod y ddeiseb hon wedi'i chwblhau.
Cytunodd y Pwyllgor i
gau'r ddeiseb ar y sail mai ychydig o gamau pellach y gellid eu cymryd ar hyn o
bryd, yn wyneb y ffaith bod y Cynulliad wedi cytuno ar Gyllideb Derfynol
Llywodraeth Cymru ar gyfer 2019/20 ar 15 Ionawr 2019 a bod y Pwyllgor Cyllid a
phwyllgorau pwnc eraill wedi craffu arni.
Gellir gweld manylion
llawn ynghylch trafodaeth y pwyllgor o'r ddeiseb hon a'r dogfennau cysylltiedig
ar y tab Cyfarfodydd uchod.
Cafodd ei hystyried
gyntaf gan y Pwyllgor Deisebau ar 23/10/2018.
Etholaeth
a Rhanbarth y Cynulliad
·
Aberafan
·
Gorllewin De Cymru
Rhagor o wybodaeth
- Dysgwch fwy am broses ddeisebau'r
Cynulliad
- Llofnodwch e-ddeiseb
- Sut mae proses Ddeisebu yn gweithio
Math o fusnes: Deiseb
Rheswm dros ei ystyried: Busnes y Senedd;
Cyhoeddwyd gyntaf: 11/10/2018