P-05-844 Adolygu Cynllun Datblygu Lleol Castell-nedd Port Talbot ar unwaith

P-05-844 Adolygu Cynllun Datblygu Lleol Castell-nedd Port Talbot ar unwaith

Wedi'i gwblhau

P-05-844 Adolygu Cynllun Datblygu Lleol Castell-nedd Port Talbot ar unwaith

Cyflwynwyd y ddeiseb hon gan Emma Eynon, ar ôl casglu 56 o lofnodion.

Geiriad y ddeiseb

​​​​Rydym ni sydd wedi llofnodi isod yn galw ar i Lywodraeth Cymru drefnu adolygiad o'r Cynllun Datblygu Lleol ar gyfer Ardal Castell-nedd Port Talbot, a hynny ar unwaith. Mae angen newidiadau brys er mwyn adolygu'r canllawiau ar gyfer ardaloedd gwledig, yn benodol ynghylch Adfywio Cymoedd Cymru. Fel trigolion lleol, nid ydym yn teimlo bod digon o fesurau ar waith i gadw ein cymunedau rhag datblygiadau masnachol negyddol sy'n effeithio'n ddifrifol iawn ar ardaloedd preswyl. Mae angen newid i orfodi polisïau Teithio Llesol, diogelu anheddau preswyl a Deddf Llesiant Cenedlaethau'r Dyfodol (Cymru) 2015. Ni ddarparwyd yn ddigonol ar gyfer ein cymuned ym Mlaengwrach yn y Cynllun Datblygu Lleol a gofynnwn i gamau gael eu cymryd yn gynt na'r adolygiad a drefnwyd ar gyfer 2020. Gofynnwn am y cyfle, o leiaf, i allu ychwanegu eithriadau a chanllawiau i'r Cynllun Datblygu Lleol ynghylch datblygiadau sy'n arwain at gryn lawer o draffig, megis gorsafoedd petrol a bwytai min ffordd.

 

Statws

Yn ei gyfarfod ar 11/12/2018 penderfynodd y Pwyllgor Deisebau fod y ddeiseb hon wedi'i chwblhau.

Bu'r Pwyllgor yn trafod gohebiaeth gan Ysgrifennydd y Cabinet dros Ynni, Cynllunio a Materion Gwledig ynghyd â sylwadau pellach gan y deisebydd. Daeth yr Aelodau i'r casgliad y dylai pob Awdurdod Cynllunio Lleol wneud penderfyniadau ynghylch a ddylid adolygu cynllun datblygu lleol ai peidio ac, ar y sail honno, cytunodd y Pwyllgor i gau'r ddeiseb.

Gellir gweld manylion llawn ynghylch trafodaeth y pwyllgor o'r ddeiseb hon a'r dogfennau cysylltiedig ar y tab Cyfarfodydd uchod.

Cafodd ei hystyried gyntaf gan y Pwyllgor Deisebau ar 23/10/2018.

 

 

Etholaeth a Rhanbarth y Cynulliad

·         Castell-nedd

·         Gorllewin De Cymru

 

Rhagor o wybodaeth

 

Math o fusnes: Deiseb

Rheswm dros ei ystyried: Busnes y Senedd;

Cyhoeddwyd gyntaf: 11/10/2018