Ymchwiliad i hawliau pleidleisio i garcharorion

Ymchwiliad i hawliau pleidleisio i garcharorion

 

Inquiry5

 

Cynhaliodd y Pwyllgor Cymunedau, Cydraddoldeb a Llywodraeth Leol ymchwiliad i hawliau pleidleisio i garcharorion.

 

Cylch gorchwyl:
Roedd y cylch gorchwyl yn cynnwys ystyried y canlynol:

 

  • Dadleuon o blaid ac yn erbyn rhoi'r hawl i rai carcharorion, neu bob un, bleidleisio yn etholiadau Cymru, ac a ellid gwahaniaethu rhwng categorïau gwahanol o garcharor ar sail hyd y ddedfryd, dyddiad rhyddhau disgwyliedig, neu fathau o drosedd;
  • Materion ymarferol, megis cofrestru etholiadol (gan gynnwys cyfeiriad), dull pleidleisio, ymgysylltiad carcharorion â'r broses wleidyddol, rhoi gwybodaeth ac addysg o ran gwleidyddiaeth a dinasyddiaeth;
  • Materion trawsffiniol oherwydd bod carcharorion o Gymru yn cael eu carcharu yn Lloegr, ac i'r gwrthwyneb.
  • A yw ystyriaethau arbennig yn cynnwys troseddwyr ifanc yn y ddalfa os estynnir yr hawl i bleidleisio i bobl 16 ac 17 oed yn gyffredinol; ac
  • Ymagweddau gwledydd eraill o ran hawl carcharorion i bleidleisio.

 

Tystiolaeth

 

Cynhaliodd y Pwyllgor nifer o sesiynau tystiolaeth i lywio gwaith y Pwyllgor. Gellir gweld tabl ohonynt isod. Yn ogystal, ymgynghorodd y Pwyllgor ar y pwnc hwn.

 

Sesiwn dystiolaeth

Dyddiad, agenda a chofnodion

Trawsgrifiad

Fideo

1.    Canolfan Llywodraethiant Cymru

Dr Robert Jones, Cydymaith Ymchwil, Canolfan Llywodraethiant Cymru

 

Dr Greg Davies, Cydymaith Ymchwil

23 Ionawr 2019

Darllenwch y trawsgrifiad

Gwyliwch ar Senedd. TV

2.    Yr Ymddiriedolaeth Diwygio Carchardai

Mark Day, Head of Policy and Communications, Prison Reform Trust

23 Ionawr 2019

Darllenwch y trawsgrifiad

Gwyliwch ar Senedd. TV

3.     Cymru Ddiogelach

Bernie Bowen-Thompson, Chief Executive, Safer Wales

 

20 Chwefror 2019

Darllenwch y trawsgrifiad

Gwyliwch ar Senedd. TV

4.    Bwrdd Cyfiawnder Ieuenctid

Darren Trollope

20 Chwefror 2019

Darllenwch y trawsgrifiad

Gwyliwch ar Senedd. TV

 

5.     Comisiwn Etholiadol yng Nghymru

Elan Closs Stephens CBE, Comisiynydd Etholiadol, y Comisiwn Etholiadol yng Nghymru

 

Rhydian Thomas, Pennaeth y Comisiwn Etholiadol, y Comisiwn Etholiadol yng Nghymru

 

Rhys George, Cadeirydd Cangen Cymru o Gymdeithas y Gweinyddwyr Etholiadol

 

Amanda Bebb, Dirprwy Gadeirydd Cangen Cymru o Gymdeithas y Gweinyddwyr Etholiadol

 

Peter Stanyon, Prif Weithredwr, Cymdeithas y Gweinyddwyr Etholiadol

 

7 Mawrth 2019

Darllenwch y trawsgrifiad

Gwyliwch ar Senedd. TV

6.    Comisynydd Dioddefwyr

Y Farwnes Newlove, y Comisynydd Dioddefwyr

7 Mawrth 2019

Darllenwch y trawsgrifiad

Gwyliwch ar Senedd. TV

7.    Y Gweinidog Tai a Llywodraeth Leol

Julie James, y Gweinidog Tai a Llywodraeth Leol

 

Lisa James, Dirprwy Gyfarwyddwr yr Is-adran Democratiaeth Llywodraeth Leol

 

Gareth Thomas, Cynghorydd Polisi, Diwygio Etholiadol (Is-adran Llywodraeth Leol)

 

27 Mawrth 2019

Darllenwch y trawsgrifiad

Gwyliwch ar Senedd. TV

 

Adroddiad

 

Cyhoeddodd y Pwyllgor ei adroddiad ar Hawliau Pleidleisio i Garcharorion (PDF, 1MB) ddydd Mawrth 11 Mehefin. Wrth gyhoeddi'r adroddiad, dywedodd John Griffiths AC, Cadeirydd y Pwyllgor:

 

“Mae rhoi’r hawl i garcharorion bleidleisio yn bwnc llosg. Mae dadl gref o blaid ac yn erbyn. Rydym wedi ymdrechu i sicrhau ein bod yn clywed pob ochr i’r ddadl ac yn eu hystyried yn ofalus. Roedd trwch y dystiolaeth a gawsom, yn ysgrifenedig, yn ystod ymweliadau, ac mewn cyfarfodydd pwyllgor yn glir o blaid rhoi’r hawl i garcharorion bleidleisio. Gan mwyaf, roedd y dystiolaeth o blaid ymestyn yr etholfraint i bob carcharor.”

 

Mae fideo byr ar yr adroddiad i’w weld isod.

 

YouTube-Here https://www.youtube.com/embed/Ql4V4DeEyig

 

Cyhoeddodd Llywodraeth Cymru (PDF, 128KB) a Chomisiwn y Cynulliad (PDF, 278KB) eu hymatebion i adroddiad y Pwyllgor ar hawliau pleidleisio i garcharorion ar 24 Gorffennaf 2019.

 

Cynhaliwyd dadl ar yr adroddiad yn y Cyfarfod Llawn ddydd Mercher 25 Medi 2019.

Math o fusnes: Ymchwiliad Pwyllgor

Rheswm dros ei ystyried: Busnes y Senedd;

Statws: Wedi’i gwblhau

Cyhoeddwyd gyntaf: 12/11/2018

Dogfennau

Ymgynghoriadau