P-05-847 Creu ffynhonnau dŵr yng nghanol dinasoedd a threfi er mwyn rhoi diwedd ar wastraff plastig

P-05-847 Creu ffynhonnau dŵr yng nghanol dinasoedd a threfi er mwyn rhoi diwedd ar wastraff plastig

Wedi'i gwblhau

 

Cyflwynwyd y ddeiseb hon gan Tereza Tothova, ar ôl casglu 149 o lofnodion.

 

Geiriad y ddeiseb

​​​​Rydym yn galw ar i Gynulliad Cenedlaethol Cymru ystyried creu ffynhonnau dŵr a'u rhoi yng nghanol dinasoedd a threfi. Prif ddiben y cam gweithredu hwn fyddai roi diwedd ar wastraff plastig. Gwelwyd cynnydd sylweddol yn nifer y poteli plastig untro yn ystod y blynyddoedd diwethaf ac oherwydd y broses ailgylchu araf, mae'n llygru'r amgylchedd, gan niweidio bywyd y môr yn arbennig.

Mae llawer o bobl yn ceisio byw yn iach, gan gynnwys yfed o leiaf 2 litr o ddŵr bob dydd. Felly, mae poteli dŵr amldro wedi dod yn boblogaidd a defnyddiol iawn i helpu pobl i yfed digon o ddŵr drwy'r dydd. Byddai rhoi ffynnon ddŵr yng nghanol dinasoedd neu mewn rhannau eraill o ddinasoedd a threfi (canolfannau siopa, canolfannau chwaraeon, colegau, canolfannau diwylliannol ac ati) yn helpu i sicrhau bod dŵr yfed ar gael trwy'r dydd. Byddai'r ffynhonnau dŵr hyn hefyd yn cyflenwi dŵr yfed i bobl ddigartref.

 

I gefnogi'r economi leol yng Nghymru, gellid defnyddio cwmnïau dŵr mwynol Cymru ar gyfer cyflenwi'r ffynhonnau dŵr.

 

 

 

Etholaeth a Rhanbarth y Cynulliad

·         Gorllewin Caerdydd

·         Canol De Cymru

 

Statws

Yn ei gyfarfod ar 25/06/2019 penderfynodd y Pwyllgor Deisebau fod y ddeiseb hon wedi'i chwblhau.

Trafododd y Pwyllgor ohebiaeth bellach gan Weinidog yr Amgylchedd, Ynni a Materion Gwledig yn amlinellu'r camau y mae Llywodraeth Cymru yn eu cymryd mewn perthynas â Refill, a chytunodd i gau'r ddeiseb a diolch i'r deisebydd am godi'r mater hwn drwy'r broses ddeisebau.

Gellir gweld manylion llawn ynghylch trafodaeth y pwyllgor o'r ddeiseb hon a'r dogfennau cysylltiedig ar y tab Cyfarfodydd uchod.

Cafodd ei hystyried gyntaf gan y Pwyllgor Deisebau ar 27/11/2018.

 

 

Rhagor o wybodaeth

 

 

 

 

Math o fusnes: Deiseb

Rheswm dros ei ystyried: Busnes y Senedd;

Statws: Wedi’i gwblhau

Cyhoeddwyd gyntaf: 06/11/2018