P-05-850 Amddiffyn Gwastatir Gwent ac atal traffordd arfaethedig yr M4
P-05-850 Amddiffyn Gwastatir Gwent ac atal traffordd arfaethedig yr M4
P-05-850
Amddiffyn Gwastatir Gwent ac atal traffordd arfaethedig yr M4
Cyflwynwyd y ddeiseb hon gan CALM (Campaign Against the Levels Motorway). Mae'r ddeiseb wedi casglu 12,270 o lofnodion ar wefan e- ddeiseb arall.
Geiriad y ddeiseb
Rhowch y gorau
i’r cynlluniau i adeiladu traffordd yr M4 ar draws harddwch Gwastatir Gwent a
buddsoddwch mewn trafnidiaeth gyhoeddus yn lle hynny.
Pam mae hyn yn
bwysig?
Bydd y cynlluniau presennol i ymestyn traffordd yr M4 yn peryglu
dyfrgwn, gwenyn prin a blodau gwyllt. Byddai’n torri ar draws fersiwn Cymru o
'Goedwig Law Amazon', Gwastatir Gwent, sy’n hafan i fywyd gwyllt. Mae angen
gwella’r traffig o amgylch Casnewydd, ond byddai’n well i Gymru a’r amgylchedd
pe bai Llywodraeth Cymru yn buddsoddi mewn trafnidiaeth gyhoeddus yn lle hynny.
Os ydym eisiau gwarchod yr amgylchedd ar gyfer cenedlaethau’r dyfodol, mae
angen i ni feddwl am opsiynau amgen yn lle traffyrdd llygredig mawr. Mae
rheolydd a chyrff cynghori y Cynulliad ei hun, Cyfoeth Naturiol Cymru, yn gwrthwynebu’r
cynlluniau hyn.
Etholaeth
a Rhanbarth y Cynulliad
·
Dwyrain Casnewydd
·
Dwyrain De Cymru
Statws
Yn ei gyfarfod ar 11/06/2019 penderfynodd y Pwyllgor
Deisebau fod y ddeiseb hon wedi'i chwblhau.
Trafododd y Pwyllgor y ddeiseb ochr yn ochr â
P-05-838 Cefnogwch y Llwybr Du o ran Ffordd Liniaru’r M4. Yng ngoleuni'r
penderfyniad a gyhoeddwyd gan y Prif Weinidog ar 4 Mehefin, y gwaith craffu
cynhwysfawr a wnaed mewn perthynas â’r mater hwn gan yr Ymchwiliad Cyhoeddus, a
llwyddiant y ddeiseb, daeth y Pwyllgor i'r casgliad nad oedd unrhyw gamau
pellach y gallai eu cymryd yn realistig, a chytunodd i gau'r ddeiseb.
Gellir gweld manylion llawn ynghylch trafodaeth y
pwyllgor o'r ddeiseb hon a'r dogfennau cysylltiedig ar y tab Cyfarfodydd uchod.
Cafodd ei hystyried gyntaf gan y Pwyllgor Deisebau
ar 27/11/2018.
Rhagor
o wybodaeth
- Dysgwch fwy am broses ddeisebau'r
Cynulliad
- Llofnodwch e-ddeiseb
- Sut mae proses Ddeisebu yn gweithio
Math o fusnes: Gwelliant
Statws: Wedi’i gwblhau
Cyhoeddwyd gyntaf: 24/10/2018