Addysgu Hanes Cymru
Addysgu Hanes Cymru
Cefndir
Cynhaliodd y Pwyllgor arolwg cyhoeddus yn ystod haf 2018,
gan wahodd aelodau o'r cyhoedd i ddewis o restr o bynciau posibl ar gyfer
ymchwiliad. Cymerodd bron 2,500 o bobl ran yn yr arolwg, a phleidleisiodd 44 y
cant ohonynt dros 'Addysgu hanes, diwylliant a threftadaeth Cymru mewn
ysgolion'.
Yn dilyn
canlyniadau'r bleidlais, cytunodd y Pwyllgor Diwylliant, Cymraeg a Chyfathrebu i gynnal ymchwiliad i edrych ar
sut mae hanes, diwylliant a threftadaeth Cymru yn cael eu haddysgu mewn
ysgolion.
Cynhaliodd y Pwyllgor ddigwyddiad i
randdeiliaid yn Amgueddfa Genedlaethol y Glannau, Abertawe, ar 21 Chwefror
2019.
Cyhoeddodd y Pwyllgor
ei adroddiad: “Addysgu hanes Cymru” (PDF, 1.3MB) ar 14 Tachwedd 2019. Edrychodd
yr adroddiad ar sut mae hanes Cymru yn cael ei addysgu mewn ysgolion yng
Nghymru a gwnaeth argymhellion ar gyfer newid.
Cafodd yr adroddiad ei drafod yn y Cyfarfod Llawn ar 15 Ionawr 2020.
Ymateb i'r adroddiad
Fe wnaeth Llywodraeth Cymru ymateb i'r
adroddiad.
Math o fusnes: Ymchwiliad Pwyllgor
Rheswm dros ei ystyried: Busnes y Senedd;
Statws: Wedi’i gwblhau
Cyhoeddwyd gyntaf: 31/10/2018
Dogfennau
- Gohebiaeth gydag Ymgyrch Hanes Cymru ynglŷn ag addysgu hanes Cymru PDF 310 KB
- Ymateb gan Ymgyrch Hanes Cymru i'r adroddiad Addysgu Hanes Cymru PDF 647 KB Gweld fel HTML (3) 12 KB
Papurau cefndir
- Llythyr gan Ymgyrch Hanes Cymru ynglŷn ag Addysgu Hanes Cymru - 25 Hydref 2018 PDF 651 KB Gweld fel HTML (1) 19 KB
Ymgynghoriadau