Rheoli Apwyntiadau Dilynol Cleifion Allanol ar Draws Cymru

Rheoli Apwyntiadau Dilynol Cleifion Allanol ar Draws Cymru

Wedi'i gwblhau

Cyhoeddodd Archwilydd Cyffredinol Cymru ei adroddiad, sef Rheoli apwyntiadau cleifion allanol ar draws Cymru, ar 31 Hydref 2018.

Mae apwyntiad dilynol yn un sy'n dilyn apwyntiad cychwynnol fel claf allanol. Mae'r rhesymau dros apwyntiad dilynol yn cynnwys y rhai a ganlyn, ond heb fod yn gyfyngedig iddynt, adolygiad ar ôl llawdriniaeth, rheoli cyflyrau cronig neu gadw llygad arnynt, neu fonitro ar gyfer arwyddion o ddirywio, cyn ymyrryd.

O ganlyniad i bryderon cenedlaethol cynyddol mewn perthynas â rheoli apwyntiadau dilynol cleifion allanol, mae'r Archwilydd Cyffredinol wedi cynnal adolygiadau cychwynnol a dilynol ym mhob bwrdd iechyd yng Nghymru dros y blynyddoedd diwethaf i helpu i ganfod maint yr heriau a wynebir a'r cynnydd a wnaed wrth fynd i'r afael â hwy.

Mae'r adroddiad hwn yn crynhoi'r cynnydd a wnaed gan fyrddau iechyd ers adolygiad cychwynnol yr Archwilydd Cyffredinol yn 2015-16; trefniadau cenedlaethol i wella rheolaeth a pherfformiad apwyntiadau dilynol cleifion allanol a newidiadau yn y rhestr aros, gan gynnwys nifer y cleifion sydd ar y rhestr aros apwyntiadau dilynol cleifion allanol a'r rhai sy'n cael eu gohirio. 

Canfu'r Adroddiad fod byrddau iechyd wedi gwneud rhywfaint o gynnydd o ran ymateb i'r argymhellion a wnaed gan yr Archwilydd Cyffredinol yn 2015-16, ond mae'r cyflymder a'r effaith ar leihau'r ôl-groniad o apwyntiadau dilynol wedi'u gohirio yn gyfyngedig, gydag amrywiadau sylweddol rhwng arbenigeddau a byrddau iechyd ar draws Cymru. Mae nifer gyfartalog y cleifion ar y rhestr aros apwyntiadau dilynol wedi cynyddu 12 y cant dros y 3 blynedd diwethaf, gyda nifer y cleifion sy'n aros ddwywaith cymaint ag y dylent fod.

Trafododd y Pwyllgor Cyfrifon Cyhoeddus yr Adroddiad a chynhaliodd ymchwiliad yn ystod tymor y gwanwyn a haf 2019, gan gyhoeddi ei ganfyddiadau ym mis Gorffennaf 2019.

 

Mae’r Pwyllgor wedi monitro gweithrediad yr argymhellion yn ei adroddiad yn rheolaidd ac wedi derbyn diweddariadau rheolaidd gan Lywodraeth Cymru ac roedd yr un terfynol ym mis Medi 2020.

Sesiwn Dystiolaeth

Dyddiad, Agenda a Chofnodion

Trawsgrifiad

Fideo

1. Bwrdd Iechyd Prifysgol Caerdydd a’r Fro

Len Richards

Steve Curry

Caroline Bird

Dydd Llun 11 Mawrth 2019

Darllen trawsgrifiad Sesiwn Dystiolaeth 1

Gwylio Sesiwn Dystiolaeth 1 ar SeneddTV

2. Bwrdd Iechyd Prifysgol Aneurin Bevan

Judith Paget

Dr Paul Buss

Claire Birchall

Dydd Llun 11 Mawrth 2019

Darllen trawsgrifiad Sesiwn Dystiolaeth 2

Gwylio Sesiwn Dystiolaeth 2 ar SeneddTV

3. RNIB Cymru

Ansley Workman

Elin Haf Edwards

Gareth Davies

Dydd Llun 1 Ebrill 2019

Darllen trawsgrifiad Sesiwn Dystiolaeth 3

Gwylio Sesiwn Dystiolaeth 3 ar SeneddTV

4. Llywodraeth Cymru

Dr Andrew Goodall

Simon Dean

Dr Chris Jones

Dydd Llun 10 Mehefin

Darllen trawsgrifiad Sesiwn Dystiolaeth 4

Gwylio Sesiwn Dystiolaeth 4 ar SeneddTV

 

Math o fusnes: Arall

Statws: Wedi’i gwblhau

Cyhoeddwyd gyntaf: 07/11/2018

Dogfennau