Gwasanaethau Llywodraeth Leol i Gymunedau Gwledig

Gwasanaethau Llywodraeth Leol i Gymunedau Gwledig

Cyhoeddodd yr Archwilydd Cyffredinol yr adroddiad hwn ym mis Tachwedd a ymchwiliodd i newid yn y Gymru wledig ac yn edrych ar yr heriau demograffig o ran darparu gwasanaethau cyngor i gymunedau ar wasgar.

Mae’r Archwilydd Cyffredinol wedi canfod nad yw cynghorau hyd yn hyn yn canfod ffyrdd cynaliadwy o helpu cymunedau gwledig i oresgyn yr heriau y maent yn eu hwynebu, ac mae wedi galw ar awdurdodau lleol i feddwl a gweithredu’n wahanol i gynnal gwasanaethau mewn cymunedau gwledig.

Nododd y Pwyllgor Cyfrifon Cyhoeddus yr Adroddiad a’i ddwyn i sylw y Pwyllgorau canlynol:

·         Y Pwyllgor Newid Hinsawdd, Amgylchedd a Materion Gwledig;

·         Pwyllgor yr Economi, Sgiliau a Seilwaith;

·         Y Pwyllgor Cydraddoldeb, Llywodraeth Leol a Chymunedau.

Math o fusnes: Arall

Statws: Wedi’i gwblhau

Cyhoeddwyd gyntaf: 14/11/2018

Dogfennau