NDM6881 Dadl Plaid Cymru - Taliadau Uniongyrchol ar Gyfer Ffermwyr
NDM6881 Dadl Plaid Cymru - Taliadau Uniongyrchol ar Gyfer Ffermwyr
NDM6881 Rhun
ap Iorwerth (Ynys Môn)
Cynnig bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru:
1. Yn nodi’r rhan hanfodol y mae cynllun y
taliad sylfaenol yn ei chwarae ar hyn o bryd fel sylfaen i hyfywedd y fferm
deuluol Gymreig, cymunedau gwledig ac economi ehangach Cymru, a phwysigrwydd
taliadau uniongyrchol o ran rhoi sefydlogrwydd mewn cyfnodau o ansicrwydd.
2. Yn galw ar Lywodraeth Cymru i sicrhau fod cefnogaeth i
ffermio yng Nghymru yn cael ei thargedu at y ffermwyr gweithredol hynny sy’n
cymryd y risg ariannol sy’n gysylltiedig â chynhyrchu bwyd.
3. Yn galw ar Lywodraeth Cymru i gadw elfen o daliadau
uniongyrchol ar gyfer ffermwyr wedi Brexit.
Cyflwynwyd y gwelliannau a ganlyn:
Gwelliant 1 -
Julie James (Gorllewin Abertawe)
Dileu’r cyfan a rhoi’r canlynol yn ei le:
1. Yn nodi penderfyniad y DU i ymadael â’r UE
ym mis Mawrth 2019, gan gynnwys y Polisi Amaethyddol Cyffredin a’i system o
gymorth i ffermydd, gan gynnwys Cynllun y Taliad Sylfaenol.
2. Yn cefnogi:
a. addewid Llywodraeth Cymru i barhau i gefnogi ffermwyr
er mwyn eu cadw ar y tir a gwarchod ein cymunedau;
b. nod Llywodraeth Cymru i ddylunio’r system orau ar
gyfer rhoi cymorth i ffermydd yng Nghymru, a nodwyd yn yr ymgynghoriad diweddar
ar Brexit a’n Tir, gan gynnwys buddsoddiad ar gyfer cynhyrchu bwyd a chefnogaeth
ar gyfer nwyddau cyhoeddus; and
c. gwarant Llywodraeth Cymru na fydd unrhyw
newidiadau’n cael eu gwneud i gymhorthdal incwm heb ymgynghori ymhellach, na
fydd unrhyw gynlluniau newydd yn cael eu dylunio heb asesiad priodol o’u
heffaith, ac na fydd unrhyw hen gynlluniau’n cael eu dileu cyn y bydd
cynlluniau newydd yn barod.
3. Yn galw ar Lywodraeth y DU i gadarnhau ar
fyrder na fydd Cymru yn colli ceiniog o gyllid ar gyfer ffermio o ganlyniad i
ymadael â’r UE.
4. Yn croesawu penderfyniad Llywodraeth Cymru
i gadw Cynllun y Taliad Sylfaenol fel rhan o gyfnod pontio a fydd yn para sawl
blwyddyn.
Gwelliant 2 -
Darren Millar (Gorllewin Clwyd)
Ychwanegu pwyntiau newydd ar ddiwedd y cynnig:
Yn cydnabod o dan y Polisi Amaethyddol Cyffredin, ac yn
ystod aelodaeth y DU o'r Undeb Ewropeaidd, fod nifer y ffermwyr a cynhyrchiant
ffermydd wedi gostwng yng Nghymru.
Yn galw ar Lywodraeth Cymru i ddefnyddio'r pwerau newydd
a fydd yn deillio o'r DU yn ymadael â'r UE i greu cynllun cymorth ffermio a
gwledig sy'n gwasanaethu anghenion unigryw yr economi wledig ac amaethyddol yng
Nghymru.
Math o fusnes: Dadl
Rheswm dros ei ystyried: Busnes y Senedd;
Statws: Wedi’i gwblhau
Cyhoeddwyd gyntaf: 10/06/2021
Angen Penderfyniad: 28 Tach 2018 Yn ôl Y Cyfarfod Llawn - Y Bumed Senedd
Prif Aelod: Rhun ap Iorwerth AS