NDM6881 Dadl Plaid Cymru - Taliadau Uniongyrchol ar Gyfer Ffermwyr

NDM6881 Dadl Plaid Cymru - Taliadau Uniongyrchol ar Gyfer Ffermwyr

NDM6881 Rhun ap Iorwerth (Ynys Môn)

Cynnig bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru:

1. Yn  nodi’r rhan hanfodol y mae cynllun y taliad sylfaenol yn ei chwarae ar hyn o bryd fel sylfaen i hyfywedd y fferm deuluol Gymreig, cymunedau gwledig ac economi ehangach Cymru, a phwysigrwydd taliadau uniongyrchol o ran rhoi sefydlogrwydd mewn cyfnodau o ansicrwydd.

2. Yn galw ar Lywodraeth Cymru i sicrhau fod cefnogaeth i ffermio yng Nghymru yn cael ei thargedu at y ffermwyr gweithredol hynny sy’n cymryd y risg ariannol sy’n gysylltiedig â chynhyrchu bwyd.

3. Yn galw ar Lywodraeth Cymru i gadw elfen o daliadau uniongyrchol ar gyfer ffermwyr wedi Brexit.

 

Cyflwynwyd y gwelliannau a ganlyn:

Gwelliant 1 - Julie James (Gorllewin Abertawe)

Dileu’r cyfan a rhoi’r canlynol yn ei le:

1.  Yn nodi penderfyniad y DU i ymadael â’r UE ym mis Mawrth 2019, gan gynnwys y Polisi Amaethyddol Cyffredin a’i system o gymorth i ffermydd, gan gynnwys Cynllun y Taliad Sylfaenol.

2. Yn cefnogi:

a. addewid Llywodraeth Cymru i barhau i gefnogi ffermwyr er mwyn eu cadw ar y tir a gwarchod ein cymunedau;

b. nod Llywodraeth Cymru i ddylunio’r system orau ar gyfer rhoi cymorth i ffermydd yng Nghymru, a nodwyd yn yr ymgynghoriad diweddar ar Brexit a’n Tir, gan gynnwys buddsoddiad ar gyfer cynhyrchu bwyd a chefnogaeth ar gyfer nwyddau cyhoeddus; and

c.  gwarant Llywodraeth Cymru na fydd unrhyw newidiadau’n cael eu gwneud i gymhorthdal incwm heb ymgynghori ymhellach, na fydd unrhyw gynlluniau newydd yn cael eu dylunio heb asesiad priodol o’u heffaith, ac na fydd unrhyw hen gynlluniau’n cael eu dileu cyn y bydd cynlluniau newydd yn barod.

3.  Yn galw ar Lywodraeth y DU i gadarnhau ar fyrder na fydd Cymru yn colli ceiniog o gyllid ar gyfer ffermio o ganlyniad i ymadael â’r UE.

4.  Yn croesawu penderfyniad Llywodraeth Cymru i gadw Cynllun y Taliad Sylfaenol fel rhan o gyfnod pontio a fydd yn para sawl blwyddyn.

Ymgynghori: Brexit a’n Tir

 

Gwelliant 2 - Darren Millar (Gorllewin Clwyd)

Ychwanegu pwyntiau newydd ar ddiwedd y cynnig:

Yn cydnabod o dan y Polisi Amaethyddol Cyffredin, ac yn ystod aelodaeth y DU o'r Undeb Ewropeaidd, fod nifer y ffermwyr a cynhyrchiant ffermydd wedi gostwng yng Nghymru.

Yn galw ar Lywodraeth Cymru i ddefnyddio'r pwerau newydd a fydd yn deillio o'r DU yn ymadael â'r UE i greu cynllun cymorth ffermio a gwledig sy'n gwasanaethu anghenion unigryw yr economi wledig ac amaethyddol yng Nghymru.

 

Math o fusnes: Dadl

Rheswm dros ei ystyried: Busnes y Senedd;

Statws: Wedi’i gwblhau

Cyhoeddwyd gyntaf: 10/06/2021

Angen Penderfyniad: 28 Tach 2018 Yn ôl Y Cyfarfod Llawn - Y Bumed Senedd

Prif Aelod: Rhun ap Iorwerth AS