Paratoi ar gyfer Brexit - edrych ar sectorau allweddol

Paratoi ar gyfer Brexit - edrych ar sectorau allweddol

Y cefndir

Elfen allweddol o waith y Pwyllgor Materion Allanol a Deddfwriaeth Ychwanegol oedd ymchwilio i ba mor barod yw Cymru, ac yn benodol Llywodraeth Cymru, ar gyfer Brexit.

 

Roedd gwaith blaenorol y Pwyllgor yn cynnwys agweddau ar barodrwydd ar gyfer Brexit yn cynnwys:

Yn ystod haf 2018 cytunodd y Pwyllgor i wneud rhagor o waith ar barodrwydd ar gyfer Brexit i adeiladu ar ganfyddiadau, casgliadau ac argymhellion ei waith cynharach. Cytunodd y Pwyllgor i ganolbwyntio ar dri sector allweddol - porthladdoedd; gofal iechyd a meddyginiaethau; a bwyd.

Fel rhan o’r gwaith hwn, ysgrifennodd y Pwyllgor at randdeiliaid blaenorol ym meysydd porthladdoedd, meddyginiaethau a gofal iechyd, a bwyd, dros yr haf cyn penderfynu ar ei gamau nesaf. Gellir gweld yr ymatebion isod.

Cynhaliodd y Pwyllgor sesiwn dystiolaeth bellach gyda sectorau allweddol ar eu paratoadau ar gyfer Brexit ddydd Llun 8 Hydref 2018.

 

Paratoi ar gyfer Brexit - adroddiad dilynol ar ba mor barod yw porthladdoedd Cymru

Cyhoeddodd y Pwyllgor ei adroddiad ar ba mor barod yw porthladdoedd Cymru ar 26 Tachwedd 2018. Darllenwch yr adroddiad llawn.

 

Wrth gyhoeddi'r adroddiad, dywedodd David Rees AC, Cadeirydd y Pwyllgor:

"Gyda llai na phum mis i fynd nes i'r DU adael yr Undeb Ewropeaidd, aethom ati i weld pa mor barod yw'r sector porthladdoedd, a'r hyn a ddarganfuwyd yw bod angen newid sylweddol yng ngweithgarwch Llywodraeth Cymru i gefnogi'r sector i baratoi ar gyfer Brexit. Mae ein hadroddiad yn gosod y materion ac yn gwneud cyfanswm o saith argymhelliad i Lywodraeth Cymru ar y camau y credwn fod angen eu cymryd wrth inni symud tuag at adael yr UE ym mis Mawrth 2019."

 

YouTube-Here https://www.youtube.com/embed/HwDKd6LEsyg

 

Gosododd Llywodraeth Cymru ei ymateb i’r adroddiad ar 22 Ionawr 2019. Cafwyd dadl ar yr adroddiad ac ymateb y Llywodraeth yn y Cyfarfod Llawn ar 29 Ionawr 2019.

 

Paratoi ar gyfer Brexit - Adroddiad ar ba mor barod yw'r sector gofal iechyd a meddyginiaethau yng Nghymru

Cyhoeddodd y Pwyllgor ei adroddiad ar ba mor barod yw'r sector gofal iechyd a meddyginiaethau yng Nghymru ar 3 Rhagfyr 2018. Darllenwch yr adroddiad llawn.

 

Wrth gyhoeddi'r adroddiad, dywedodd David Rees AC, Cadeirydd y Pwyllgor:

"Mae'n hanfodol bod Llywodraeth Cymru yn cynyddu ei hymdrechion i baratoi'r gwasanaeth iechyd yng Nghymru ar gyfer Brexit. Mae hyn yn cynnwys rhoi'r sicrwydd sydd ei angen arnom fod cynlluniau ar droed i gyfathrebu â phob lefel o'r sectorau iechyd a gofal cymdeithasol yng Nghymru."

 

YouTube-Here https://www.youtube.com/embed/V_Cf4TanAzU

 

Gosododd Llywodraeth Cymru ei ymateb i’r adroddiad ar 22 Ionawr 2019. Cafwyd dadl ar yr adroddiad ac ymateb y Llywodraeth yn y Cyfarfod Llawn ar 29 Ionawr 2019.

 

Paratoi ar gyfer Brexit - Adroddiad ar ba mor barod yw'r sector bwyd a diod yng Nghymru

Cyhoeddodd y Pwyllgor ei adroddiad ar ba mor barod yw’r sector bwyd a diod yng Nghymru ar 10 Rhagfyr 2018. Darllenwch yr adroddiad llawn.

 

Wrth gyhoeddi'r adroddiad, dywedodd David Rees AC, Cadeirydd y Pwyllgor:

"Mae'r sector bwyd a diod yng Nghymru yn hollbwysig i'n heconomi, o ran yr incwm a gynhyrchir a'r swyddi a gaiff eu cynnal gan y sector. Rydym yn bryderus iawn ynghylch y goblygiadau posibl i Gymru o golli mynediad i'r farchnad o ran ein cynhyrchwyr bwyd a diod, yn enwedig ffermwyr yn y diwydiant cig coch, sy'n ddibynnol ar allforion i'r UE am swm sylweddol o'u hincwm allforio. Clywsom, hefyd, er bod ymdrechion ar waith i ehangu i farchnadoedd newydd a rhai sy'n dod i'r amlwg, bydd ffactorau megis cyfnod silff byr a thymhorol cynhyrchion bwyd fel cig eidion a chig oen yn golygu na fydd y marchnadoedd newydd hyn yn dwyn ffrwyth am flynyddoedd i ddod."

 

YouTube-Here https://www.youtube.com/embed/L4unagO5NFM

 

Gosododd Llywodraeth Cymru ei ymateb i’r adroddiad ar 22 Ionawr 2019. Cafwyd dadl ar yr adroddiad ac ymateb y Llywodraeth yn y Cyfarfod Llawn ar 29 Ionawr 2019.

 

Ers hynny, gwnaeth y Pwyllgor waith ar y cyd gyda Swyddfa Archwilio Cymru ar barodrwydd at Brexit a pharhaodd i graffu ar barodrwydd sectorau allweddol.

Math o fusnes: Ymchwiliad Pwyllgor

Rheswm dros ei ystyried: Busnes y Senedd;

Statws: Wedi’i gwblhau

Cyhoeddwyd gyntaf: 22/11/2018

Dogfennau