NDM6892 Dadl y Ceidwadwyr Cymreig - Perfformiad Llwyodraeth Cymru
NDM6892 Dadl y Ceidwadwyr Cymreig - Perfformiad Llwyodraeth Cymru
NDM6892 Darren
Millar (Gorllewin Clwyd)
Cynnig bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru:
1. Yn gresynu ers mis Rhagfyr 2009:
a) fod amseroedd aros rhwng atgyfeirio a thriniaeth yn y
GIG yng Nghymru wedi cynyddu;
b) fod perfformiad yn erbyn y targedau 4 a 12 awr yn
adrannau brys Cymru wedi dirywio;
c) nad yw’r targedau trin canser yng Nghymru erioed wedi
cael eu cyrraedd;
d) fod nifer y gwelyau mewn ysbytai yng Nghymru wedi
gostwng;
e) fod perfformiad TGAU wedi dirywio yng Nghymru gyda
chyrhaeddiad graddau A * - C ar gyfer haf 2018 ar y lefel waethaf ers 2005;
f) fod sgoriau OECD PISA Cymru yn waeth mewn darllen,
mathemateg a gwyddoniaeth a bod y canlyniadau diweddaraf yn waeth nag yn 2009,
gan roi sgoriau Cymru yn hanner gwaelod sgoriau byd-eang yr OECD ac ar waelod
sgoriau'r DU;
g) fod nifer fawr o ysgolion yng Nghymru wedi'u cau'n
barhaol;
h) fod incwm gwario gros aelwydydd fel canran o
gyfartaledd y DU wedi gostwng;
i) fod gan Gymru gyfradd twf cyflog gyfartalog gwaethaf
gwledydd y DU;
j) fod ardrethi busnes yng Nghymru wedi dod yn llai
cystadleuol na rhannau eraill o'r DU; a
k) fod nifer y cartrefi newydd sy'n cael eu
hadeiladu yn flynyddol yng Nghymru wedi gostwng.
2. Yn galw ar Lywodraeth Cymru i gydnabod ei
methiannau, gan roi’r gorau i’w pholisïau sy’n methu, a chyflawni'r newid
cadarnhaol sydd ei angen ar Gymru.
Cyflwynwyd y gwelliant a ganlyn:
Gwelliant 1 - Julie
James (Gorllewin Abertawe)
Dileu popeth ar ôl Cymru a rhoi yn ei le:
1. Yn cydnabod:
a) Bod bron i naw o bob 10 o bobl
yn cael eu trin o fewn yr amser targed o 26 wythnos
b) Bod y buddsoddiad yn GIG Cymru
ar lefel na welwyd o’r blaen
c) Bod mwy o bobl nag erioed yn
goroesi canser yng Nghymru ac yn cael eu trin o fewn yr amser targed
d) Bod cyfran y disgyblion a
gafodd y graddau TGAU uchaf, A* i A, wedi cynyddu i 18.5% yn 2018
e) Bod 8.7% o ddisgyblion wedi
cael A* yn eu harholiadau Safon Uwch yn 2018 – y canlyniadau gorau yng Nghymru
ers cyflwyno’r radd yn 2010
f) Bod incwm gwario gros
aelwydydd (GDHI) yn 2016 yn £15,835 i bob person, sy’n cyfateb i 81.5% o GDHI y
DU, cynnydd ers 2015
g) Bod enillion wythnosol gros
cyflogeion sy’n gweithio’n amser llawn yng Nghymru yn 2018 wedi cynyddu 2.1%
ers 2017
h) Bod 1.5m o bobl mewn cyflogaeth
yng Nghymru yn ystod y tri mis hyd at fis Medi 2018, cynnydd o
4.2% o’i gymharu â’r un cyfnod flwyddyn ynghynt – y cynnydd mwyaf yn
unrhyw un o wledydd neu ranbarthau’r DU
i) Bod tri chwarter busnesau
bach Cymru yn cael cymorth â’u biliau ardrethi ac nad yw eu hanner yn talu
unrhyw ardrethi annomestig o gwbl
j) Y bydd 20,000 o dai
fforddiadwy newydd yn cael eu hadeiladu drwy gyllid Llywodraeth Cymru yn ystod
tymor y Cynulliad hwn.
Yn diolch i’r Prif Weinidog am ei arweiniad a’i waith yn
ystod ei naw mlynedd yn y swydd.
Math o fusnes: Dadl
Rheswm dros ei ystyried: Busnes y Senedd;
Statws: Wedi’i gwblhau
Cyhoeddwyd gyntaf: 10/06/2021
Angen Penderfyniad: 5 Rhag 2018 Yn ôl Y Cyfarfod Llawn - Y Bumed Senedd
Prif Aelod: Darren Millar AS