NDM6898 Dadl Plaid Annibyniaeth y Deyrnas Unedig - Rhwyster Carthffosydd

NDM6898 Dadl Plaid Annibyniaeth y Deyrnas Unedig - Rhwyster Carthffosydd

NDM6898 Gareth Bennett (Canol De Cymru)

Cynnig bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru:

1. Yn nodi adroddiad Water UK ar ei astudiaeth ynghylch hancesi gwlyb yn blocio carthffosydd.

2. Yn gresynu at y ffaith y ceir tua 2,000 o rwystrau mewn carthffosydd bob mis ledled Cymru ac yr achosir llawer ohonynt gan bobl yn fflysio eitemau traul fel ffyn cotwm a hancesi gwlyb i lawr y toiled.

3. Yn galw ar Lywodraeth Cymru i ehangu'r gwaith ar gyfrifoldeb cynhyrchwyr estynedig y tu hwnt i fwyd a diod i gynnwys eitemau traul fel hancesi gwlyb a ffyn cotwm.

4. Yn galw ar Lywodraeth y DU i ddeddfu ar gyfer profi cynhyrchion fel hancesi gwlyb a ffyn cotwm ar sail rheoleiddiol; ac os bydd cynhyrchion o'r fath yn methu prawf newydd y diwydiant dŵr i weld a ellir eu fflysio, rhaid i gynhyrchwyr becynnu'r cynhyrchion hynny gyda logo clir, trawiadol ac amlwg sy'n nodi na ellir eu fflysio.

Water UK - Wipes in Sewer Blockage Study (Saesneg yn unig)

 

Cyflwynwyd y gwelliannau a ganlyn:

Gwelliant 1 - Julie James (Gorllewin Abertawe)

Dileu pwynt 3 a rhoi yn ei le:

Yn nodi gwaith Llywodraeth Cymru gyda chwmnïau dŵr er mwyn pwyso a mesur opsiynau ar gyfer mynd i’r afael â’r broblem lle y mae defnyddiau traul yn achosi i doiledau flocio.

Gwelliant 2 - Rhun ap Iorwerth (Ynys Môn)

Ychwanegu pwynt newydd ar ddiwedd y cynnig:

Yn galw ar Lywodraeth Cymru i weithio ar y cyd â Dŵr Cymru ac asiantaethau eraill i wella ymwybyddiaeth y cyhoedd o ran defnyddiau traul er mwyn lleihau rhwystrau yn y system garthffosiaeth.

Gwelliant 3 - Rhun ap Iorwerth (Ynys Môn)

Ychwanegu pwynt newydd ar ddiwedd y cynnig:

Yn galw ar Lywodraeth Cymru i archwilio’r posibiliadau o ddefnyddio trethi newydd i leihau’r defnydd o ddefnyddiau traul.

 

Math o fusnes: Dadl

Rheswm dros ei ystyried: Busnes y Senedd;

Statws: Wedi’i gwblhau

Cyhoeddwyd gyntaf: 10/06/2021

Angen Penderfyniad: 12 Rhag 2018 Yn ôl Y Cyfarfod Llawn - Y Bumed Senedd

Prif Aelod: Neil Hamilton AS